Dathlu Cenhedlaeth Windrush

23ain Mehefin 2026

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi ymuno yn y dathliadau blynyddol ar gyfer Cenhedlaeth Windrush.

Mae Cenhedlaeth Windrush yn cyfeirio at y dynion, menywod a phlant Affro-Caribïaidd a gyrhaeddodd gwledydd Prydain ar HMT Empire Windrush ym 1948. Roedd angen mawr am weithwyr ar y pryd a chawsant groeso yn rhan o’r ymdrechion i ail adeiladu'r wlad ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Ymunodd y Comisiynydd â hynafiaid o'r gymuned Windrush ac arweinwyr o bob rhan o Gymru mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd. Trefnwyd y digwyddiad gan Race Council Cymru a chafodd gefnogaeth ariannol gan bedwar comisiynydd heddlu a throsedd Cymru i gydnabod y cyfraniad mae Cenhedlaeth Windrush wedi ei wneud yng Nghymru.

Meddai Jane Mudd: “Diwrnod Windrush yw ein cyfle ni i ddiolch i'r bobl hynny a adawodd eu cartrefi ac a deithiodd mor bell i ddod i'n helpu ni i ail adeiladu'r wlad ar ôl y rhyfel. Mae bron i 80 mlynedd ers i HMT Empire Windrush gyrraedd ein glannau ac mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i gofio'r dynion a menywod hynny a aeth yn eu blaenau i wneud cymaint o gyfraniad i'n cymunedau."