Cynnydd yn y dreth gyngor i helpu i gadw cymunedau’n ddiogel

26ain Ionawr 2024

Bydd faint mae cartrefi yng Ngwent yn talu am eu gwasanaeth heddlu'n codi er mwyn rhoi sylw i bwysau ariannol cynyddol oherwydd galw cynyddol ar blismona rheng flaen, a chynnydd mewn costau.

 

O fis Ebrill, bydd y praesept plismona'n codi 7.7 y cant, sy'n golygu y bydd eiddo band D arferol yn talu ychydig dros £2 y mis yn fwy tuag at blismona trwy gyfrwng y dreth gyngor.


Daw'r penderfyniad ar ôl craffu manwl ar yr achos gweithredol ac ariannol am fwy o gyllid a gyflwynwyd gan y Prif Gwnstabl Pam Kelly, a rhaglen 12 wythnos o ymgysylltu cyhoeddus gyda thrigolion ledled Gwent. Cymeradwywyd y penderfyniad yn unfrydol gan Banel yr Heddlu a Throsedd Gwent, corff sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob un o bum awdurdod lleol Gwent, mewn cyfarfod ddydd Gwener 26 Ionawr.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dros Dro, Eleri Thomas: "Un o gyfrifoldebau mwyaf pwysig Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yw pennu cyllideb yr heddlu bob blwyddyn a sicrhau bod gan Heddlu Gwent yr adnoddau sydd eu hangen arno er mwyn amddiffyn a diogelu pobl Gwent.

"Rydym yn gwybod bod hwn yn amser arbennig o anodd i lawer o bobl yn ein cymunedau. Ar yr un pryd, mae costau cynyddol yn rhoi pwysau anferthol ar bob agwedd ar wasanaeth cyhoeddus. Gyda galw a chostau ar gynnydd, rydym mewn sefyllfa heriol iawn wrth i ni fynd i mewn i flwyddyn ariannol 2024-25.

"Mae trigolion wedi dweud wrthym ni’n gyffredinol y byddent yn barod i dalu ychydig mwy am wasanaethau hanfodol ac mae'r cynnydd yma yn gyfaddawd rhwng fforddiadwyedd i drigolion a'r arian sydd ei angen i barhau i gynnal gwasanaeth heddlu effeithlon ac effeithiol.

"Er gwaethaf y codiad yma bydd angen gwneud arbedion pellach. Mae'r Prif Gwnstabl wedi ymrwymo i raglen o newid sylweddol er mwyn darparu gwelliannau i'r gwasanaeth a gwerth am arian. Fodd bynnag, y realiti yw nad yw gwneud toriadau sylweddol o un flwyddyn i'r llall yn ateb cynaliadwy ar gyfer y dyfodol a byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o gymorth ariannol ar gyfer plismona.

"Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu barn gyda ni, a diolch i Banel Heddlu a Throsedd Gwent am ei gefnogaeth barhaus."