Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn parhau i gefnogi Pobl Ifanc Cwmbrân
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi dyrannu cyllid i alluogi Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân i barhau i ddarparu sesiynau galw heibio agored pum noson yr wythnos.
Mae gweithwyr ieuenctid cymwys yn darparu rhaglenni amrywiol o weithgareddau gyda'r nod o fagu hyder, annog cymryd rhan a chefnogi datblygiad cymdeithasol. Mae gan bobl ifanc fynediad i ystod eang o adnoddau hamdden hefyd, gan gynnwys byrddau pŵl, campfa, tennis bwrdd, dartiau, cyfarpar cerddoriaeth ac ystafell gemau newydd.
Mae staff yn cynnal gwaith allgymorth gyda phobl ifanc mewn ardaloedd sydd wedi cael eu nodi i fod yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol ac maen nhw'n bresenoldeb rheolaidd yng nghanol y dref a'r cymunedau o amgylch.
Meddai Jane Mudd: “Mae Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân mewn lle delfrydol i gynnig amgylchedd diogel i blant a phobl ifanc, gan roi rhywbeth cadarnhaol iddyn nhw ei wneud yn hytrach na threulio amser ar y strydoedd neu yng nghanol y dref, lle mae risg y byddant yn dechrau ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Yn ogystal â helpu i ddiogelu pobl ifanc, mae'n lleihau'r galw ar wasanaethau rheng flaen, ac rwyf yn falch i barhau i gefnogi gwaith y ganolfan."
Mae'r prosiect yn cefnogi'r blaenoriaethau a amlinellir yng Nghynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd ac mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan arian sydd wedi cael ei adfeddu o enillion troseddol. Gall grwpiau cymunedol wneud cais am grantiau rhwng £1,000 a £50,000 i gefnogi mentrau lleol.
Dywedodd Ellie McCarthy o Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân: “Mae cyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd wedi bod yn hanfodol i alluogi'r ganolfan i aros ar agor, i fod yn gynhwysol ac yn hygyrch i amrywiaeth eang o bobl ifanc, y mae llawer ohonyn nhw'n wynebu heriau sylweddol yn eu bywydau bob dydd.
"Mae adborth gan ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a phartneriaid yn y gymuned yn tynnu sylw cyson at effaith gadarnhaol y ganolfan. Bydd y buddsoddiad parhaol yma'n caniatáu i'n gwaith ni dyfu, cryfhau perthnasoedd yn y gymuned a rhoi cymorth i hyd yn oed mwy o bobl ifanc ledled Torfaen."