Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn holi cwestiynau i'r Prif Gwnstabl ar ran trigolion Casnewydd

16eg Mehefin 2026

Cynhaliodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, ei Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus diweddaraf gyda'r Prif Gwnstabl Mark Hobrough i drafod materion sy'n effeithio ar gymunedau yng Nghasnewydd. 

Mae Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus y Comisiynydd yn gyfle i'r Comisiynydd Mudd dynnu sylw at bryderon allweddol a godwyd gan gymunedau ledled Gwent a dod â nhw'n uniongyrchol i sylw'r Prif Gwnstabl.

Cafodd y fforwm diweddaraf ei recordio ar gampws Prifysgol De Cymru yng Nghasnewydd ac roedd yn cynnwys cwestiynau am ddiogelwch yng nghanol y dref, a'r gwaith y mae Heddlu Gwent yn ei wneud i gefnogi menywod a merched. Mae ar gael i'w weld ar wefan y Comisiynydd a sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Mae fy Fforwm Atebolrwydd Cyhoeddus yn rhoi cyfle i drigolion godi eu cwestiynau a'u pryderon yn uniongyrchol gyda'r Prif Gwnstabl.

“Trwy drafodaethau agored, gonest a thryloyw, rydym yn sicrhau bod lleisiau trigolion yn cael eu clywed a'u bod yn chwarae rhan weithredol wrth lunio plismona yng Ngwent.”