Busnesau Torfaen yn aros yn seiber-ddiogel

31ain Ionawr 2024

Mae busnesau o bob rhan o Dorfaen wedi cymryd rhan mewn gweithdy seiberddiogelwch i helpu i wella eu gallu i wrthsefyll seiberdroseddu cynyddol.

Fe wnaeth Ditectif Ringyll Lana Rees-Williams o dîm seiberdrosedd Heddlu Gwent rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda'r rhai a oedd yn bresennol am rai o'r sgamiau sy’n targedu busnesau yn y DU ar hyn o bryd, a pha fesurau y gallant eu cymryd i gadw eu rhwydweithiau'n ddiogel.

Esboniodd Andy Dodge o Ganolfan Arloesi Seiber Cymru sut y gall busnesau fanteisio ar hyfforddiant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i uwchsgilio staff i ddiogelu rhag bygythiadau seiber.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ei Ganolfan Arloesi Busnes Springboard a chafodd gefnogaeth gan Ganolfan Arloesi Seiber Cymru, Heddlu Gwent, a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent.

I gael awgrymiadau ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein, dilynwch dîm seiberdrosedd Heddlu Gwent ar X (Twitter) @GPCyberCrime.