Addysg Ffitrwydd y Lluoedd
£10,000 tuag at raglen 12 mis Gwent gyfan a arweinir gan fodelau rôl sy’n anelu at adeiladu gwydnwch, datblygu sgiliau bywyd hanfodol, annog perthnasoedd cadarnhaol, a hyrwyddo ymwybyddiaeth o strydoedd mwy diogel yn ogystal â diogelwch personol. Mae’r prosiect hwn wedi’i anelu at blant a phobl ifanc rhwng saith a 18 oed, ac mae’r modelau rôl yn cynnwys cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog a’r Heddlu.

Clwb Rhyngweithio Brynmawr
£10,000 tuag at ddarparu rhaglen gymunedol sy’n pontio’r cenedlaethau ac sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc. Nod y rhaglen yw gwella dealltwriaeth rhwng cenedlaethau, lleihau ynysu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chodi dyheadau pobl ifanc ac oedolion trwy weithgarwch cadarnhaol ar y cyd. Bydd y prosiect yn darparu cyfleoedd arweinyddiaeth a datblygiad personol, trafodaethau grŵp, gweithdai a gweithgareddau amrywiol.

Vitalize Radio
£4,893.75 tuag at orsaf radio gymunedol ledled Gwent sy’n cynnig cyfle i gaffael/datblygu sgiliau newydd yn ogystal â meithrin ymdeimlad o berthyn. Bydd y prosiect yn meithrin partneriaethau ystyrlon gydag ystod amrywiol o grwpiau lleol ac yn mynd ati i ymgysylltu ag ysgolion, clybiau ieuenctid, a chartrefi preswyl lleol, gan weithio’n benodol gyda phobl ifanc sy’n rhan o’r system derbyn gofal trwy weithio ar y cyd â’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Tîm Cymorth Integredig Amlasiantaeth (MIST) i sicrhau allgymorth effeithiol wedi’i dargedu.

Kid Care 4 U
£42,160 tuag at barhau â’r Clwb Sadwrn i blant a phobl ifanc rhwng pump a 18 oed yng Nghasnewydd. Mae tua 200 o unigolion yn mynychu’r clwb sy’n darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol, gweithdai ymwybyddiaeth, cymorth addysgol, yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli (ar gyfer 16+ oed).

Canolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd
£38,750 tuag at y Ganolfan Galw Heibio, lle bydd gweithwyr ieuenctid a chymunedol yn cynnig gweithgareddau allgymorth a gweithgareddau canolfan ieuenctid. Bydd gweithwyr ieuenctid hefyd yn gweithio gyda NEETs (pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) yn ystod y dydd ac yn darparu sesiynau gyda’r nos i blant a phobl ifanc ar bynciau fel camddefnyddio sylweddau a diogelwch ar-lein, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o faterion fel grŵmio, masnachu pobl, caethwasiaeth fodern, ac ymddygiad cymryd risg.

Volunteering Matters
£25,673 tuag at Brosiect SAFE (Ymwybyddiaeth Rywiol i Bawb) ledled Gwent, sydd wedi’i anelu at fenywod rhwng 16 a 35 oed ag anableddau dysgu, yn ogystal â theuluoedd y rhai ag anableddau dysgu, gan ddarparu gweithdai ar ddiogelwch personol, perthnasoedd iach, a diogelwch ar y rhyngrwyd.

Cyswllt Cymunedol Dyffryn
£24,358 tuag at gyflawni prosiect Dyfodol Dyffryn: Llwybrau Ymarferol i Fywydau Cadarnhaol - rhaglen ymyrraeth gynnar a dargyfeirio wedi’i thargedu ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sy’n agored i gymryd rhan mewn troseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a cham-fanteisio oherwydd eu bod wedi ymddieithrio o addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Bydd y prosiect yn darparu gweithgarwch strwythuredig a phwrpasol sy’n canolbwyntio ar waith ac sydd wedi’i gynllunio i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Nid model clwb ieuenctid yw hwn; yn hytrach, bydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn prosiectau ymarferol sy’n efelychu disgwyliadau ac amgylcheddau gweithle go iawn, gyda’r prosiect hefyd yn darparu cymorth a mentora 1:1 wedi’i deilwra.

Canolfan TOGS
£20,000 tuag at Brosiect i Bobl Ifanc sy’n Agored i Niwed yn Nhorfaen, a fydd yn darparu dwy sesiwn dwy awr o hyd yr wythnos am gyfnod o dros 50 wythnos i bobl ifanc sy’n agored i niwed. Bydd y sesiynau’n archwilio themâu fel ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu, gan ddarparu cyfleoedd dysgu ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir ganddynt yn gyhoeddus a chynnig cyngor ar ddiogelwch. Bydd y prosiect hefyd yn darparu sesiynau ar berthnasoedd iach, bod yn wyliadwrus ar-lein, camddefnyddio sylweddau ac ati trwy sesiynau mynediad cymunedol a bydd yn derbyn hunan atgyfeiriadau. Mae’r prosiect wedi’i anelu at bobl ifanc sy’n agored i niwed sy’n aml yn ei chael hi’n anodd deall bwriadau pobl eraill tuag atynt. O ganlyniad, maent naill ai’n agored iawn i niwed neu’n agored i ddod yn ddioddefwyr neu’n gyflawnwyr troseddau heb ddeall eu hymddygiad yn llawn.

Jame Masjid Canol Casnewydd
£50,000 tuag at Raglen Lles a Dargyfeirio Cymunedol Next Gen Youth, sy’n darparu menter ataliol sy’n anelu at leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwella iechyd meddwl a lles, a chryfhau diogelwch cymunedol trwy ymyrraeth gynnar a chymorth a arweinir gan y gymuned. Bydd y prosiect yn darparu sesiynau galw heibio wythnosol i bobl ifanc, gan gynnwys sesiwn benodol i ferched, ac yn darparu gweithgareddau dargyfeirio chwaraeon, yn ogystal â gweithdai cynhwysol i blant a phobl ifanc niwroamrywiol. Bydd y sesiynau galw heibio yn cynnwys gweithgareddau strwythuredig, mentora, a thrafodaethau wedi’u hwyluso dan arweiniad staff hyfforddedig a gwirfoddolwyr gyda’r nos, ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau.

Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân
£49,886.72 tuag at barhau â’r Prosiect Galw Heibio Mynediad Agored. Bydd y prosiect hwn yn cynnwys darparu’r cyfleuster galw heibio presennol (pum noson yr wythnos), ond bydd y ddarpariaeth yn cael ei hehangu nawr i gyflwyno sesiynau dros y penwythnos ac oriau agor ychwanegol yn ystod cyfnodau brig, e.e. gwyliau ysgol, pan fo’r galw am weithgareddau cadarnhaol, strwythuredig ar ei uchaf. Bydd y ddarpariaeth yn parhau i gael ei chyflwyno mewn amgylchedd diogel sy’n cynnig gwasanaethau, gweithgareddau a chymorth penodol i bobl ifanc rhwng saith a 25 oed. Bydd cynghorwyr a mentoriaid ar gael i’r rhai sy’n mynychu.

Hip Hop 12
£9,875 tuag at raglen ymyrraeth gynnar wedi’i thargedu yn Nhorfaen sy’n defnyddio pŵer creadigol hip hop i lywio pobl ifanc i ffwrdd oddi wrth droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd y prosiect, a fydd yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau’r haf i blant rhwng chwech a 13 oed, yn cynnig gweithgareddau fel sgiliau DJ, breg-ddawnsio a chelf stryd gyfreithiol. Y nod fydd rhoi hwb i hyder, hunan-barch a gwydnwch, a chynyddu ymwybyddiaeth o ganlyniadau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn uniongyrchol ar yr un pryd.

Cynefin Pamoja
£20,000 tuag at gyflwyno Rhaglen Gwrth-hiliaeth ac Atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mewn ysgolion, mewn partneriaeth â Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a Heddlu Gwent. Bydd y prosiect yn cyflwyno rhaglen 24 mis mewn dros 20 o ysgolion ledled Gwent gyda’r nod o leihau hiliaeth, gwahaniaethu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a phobl ifanc sy’n agored i niwed, gan gynnwys troseddau â chyllyll, trwy arfogi pobl ifanc gyda modelau rôl cadarnhaol, ymwybyddiaeth feirniadol, ac ymdeimlad cryfach o berthyn yn eu cymunedau.

Pobl yn Gyntaf Cwm Taf
£28,246.33 tuag at gyflawni prosiect Hawliau, Lleisiau a Radio: Grymuso Pobl ag Anableddau Dysgu yn Nhorfaen. Bydd y prosiect yn cyflogi person ag anabledd dysgu fel cyflwynydd sioe radio, gan gyflwyno sioeau radio misol gyda chefnogaeth Pobl yn Gyntaf Cwm Taf, mewn partneriaeth ag Able Radio. Bydd y prosiect hefyd yn cynhyrchu cyfres o raglenni radio hygyrch sy’n canolbwyntio ar themâu hawliau dynol allweddol sy’n berthnasol i bobl ag anableddau dysgu. Bydd gweithdai yn cael eu cynnal gyda phobl ag anableddau dysgu cyn pob sioe i gasglu gwybodaeth a sicrhau hygyrchedd. Mae llwybrau mynediad yn cynnwys hunan atgyfeirio, atgyfeiriadau gan Able Radio, ac atgyfeiriadau gan Dîm Anableddau Dysgu Cyngor Torfaen.

Tŷ Cymunedol
£50,000 tuag at barhau â’r Prosiect Cymunedol i Bobl Ifanc yng Nghasnewydd, sy’n darparu sesiynau gwaith ieuenctid i bobl ifanc rhwng chwech a 25 oed ac yn cynyddu gwaith ieuenctid datgysylltiedig (ar y stryd). Mae’r prosiect yn cynnwys codi ymwybyddiaeth, teithiau addysgol, gweithdai, a gweithgareddau yn y ganolfan i bobl ifanc. Mae’r prosiect yn cynnig cymorth i bobl ifanc a’u teuluoedd ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys ymddygiadau treisgar a throseddau â chyllyll, ac yn cynnig cyfleoedd cadarnhaol fel cyfleoedd arweinyddiaeth ieuenctid i rymuso pobl ifanc i fod yn fodelau rôl a gwella eu dyheadau.

Peoples Prosperity Project
£10,000 tuag at brosiect yng Nghasnewydd sy’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng saith a 25 oed o gefndiroedd amrywiol. Bydd y prosiect yn cyflwyno darpariaeth ieuenctid gyffredinol mynediad agored, gan ddarparu gweithgareddau gwaith ieuenctid sydd wedi’u cynllunio i gyrraedd pob person ifanc yn y gymuned, gan gynnwys y rhai nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â gwasanaethau strwythuredig.

Tîm Cymorth Ieuenctid a Lleiafrifoedd Ethnig
£49,982.92 tuag at barhau â phrosiect Urban Safe Casnewydd ac ehangu’r prosiect i Drefynwy a Thorfaen. Mae’r prosiect yn darparu cymorth i bobl ifanc o leiafrifoedd ethnig (11 i 25 oed) yn yr ardaloedd hyn. Bydd y prosiect yn darparu mannau diogel, hygyrch o ran diwylliant y gallant fynd iddynt, gweithwyr dibynadwy i siarad â nhw, a gweithgareddau cadarnhaol i gymryd rhan ynddynt. Bydd y prosiect yn cynnig sesiynau galw heibio i bobl ifanc, mwy o gyfleoedd ar gyfer mentora un i un, gweithdai gwybodaeth, teithiau a gweithgareddau. Nod y prosiect yw cryfhau partneriaethau a chyfleoedd rhwydweithio ymhellach er mwyn gwella’r gwasanaethau sydd ar gael.