Y Broses Apelio

Mae Gweithdrefn Rhyddid Gwybodaeth Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi cael ei llunio i'ch helpu chi i ddeall ein proses os byddwch yn teimlo'n anfodlon gyda'n hymateb i gais rydych wedi ei gyflwyno dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Beth gallaf apelio yn ei gylch?

Gallwch apelio ynghylch unrhyw beth rydych yn teimlo na chafodd ei gyflawni’n foddhaol. Er enghraifft, faint o wybodaeth a ddarparwyd, neu'r ffordd y defnyddiwyd eithriadau.  Gallwch apelio ynghylch y ffordd yr ymdriniwyd â chais hefyd, er enghraifft, faint o amser a gymerwyd i ymateb, neu faint o gymorth a gawsoch chi i ganfod y wybodaeth y gwnaethoch ofyn amdani.

Sut ydw i'n apelio?

Rhaid i bob apêl fod yn ysgrifenedig. Er mwyn i ni allu ymdrin â'ch apêl mor gyflym â phosibl, nodwch y rheswm pam rydych yn apelio, gan roi cymaint o wybodaeth â phosibl i ni am eich cais gwreiddiol. Bydd hyn yn ein helpu ni i ganfod ein cofnodion gwreiddiol am y cais mor gyflym â phosibl.

Rhaid derbyn ceisiadau am gynnal adolygiad mewnol o fewn 40 diwrnod gwaith i ddyddiad cyhoeddi'r ymateb cychwynnol neu ni fyddant yn cael eu hystyried.

Dylid anfon apeliadau at:

E-bost: Commissioner@gwent.pnn.police.uk

Post: Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent
         Pencadlys yr Heddlu
         Heol Tyrpeg
         Croesyceiliog
         Cwmbrân
         NP44 2XJ

Beth fydd yn digwydd i'r apêl?

Ar ôl i ni gael digon o fanylion i adnabod y cais sydd gennych chi dan sylw, byddwn yn dechrau adolygiad. Byddwn yn edrych ar bob rhan o'r broses ymdrin â cheisiadau yn ogystal â'r penderfyniadau a gymerwyd o ran datgeliad. Efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi yn ystod yr adolygiad os oes angen esboniad ar rai meysydd.

Pan fydd adolygiad wedi cael ei dderbyn caiff ei gydnabod o fewn saith diwrnod a bydd y sawl sy'n apelio'n cael amserlen amcangyfrifol ar gyfer cwblhau'r adolygiad. Bydd yr amserlen yn seiliedig ar gymhlethdod yr achos. Anelir at ymateb o fewn 20 diwrnod o dderbyn y cais er, mewn nifer fach o amgylchiadau, efallai y bydd angen ymestyn y cyfnod ymateb hwn.

Os yw'n debygol y bydd angen mwy o amser nac a amcangyfrifwyd yn wreiddiol, bydd y Swyddog Llywodraethu'n hysbysu'r sawl sy'n apelio am yr oedi ac yn rhoi amserlen ddiwygiedig iddo ef neu hi.

Os bydd canlyniad yr apêl yn canfod y dylid bod wedi darparu'r wybodaeth, byddwn yn ei darparu cyn gynted â phosibl. Os ydym ni'n credu ar ôl adolygiad bod ein hymateb ni'n gywir, byddwn yn eich hysbysu chi o'r canlyniad hwn.

Beth os ydw i'n dal yn anhapus?

Os ydych yn dal yn anfodlon ar yr ymateb rydych wedi ei dderbyn ar ôl cwblhau'r broses apeliadau mewnol mae gennych hawl i gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir cysylltu â'r Swyddfa fel a ganlyn:

Ffôn:
0303 123 1113

E-bost:
casework@ico.org.uk

Post:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF