Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol

Yn ogystal ag ymateb i geisiadau am wybodaeth, rhaid i ni gyhoeddi gwybodaeth yn rhagweithiol hefyd. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gofyn bod pob awdurdod cyhoeddus yn mabwysiadu cynllun cyhoeddi,  sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ac yn cyhoeddi gwybodaeth a gwmpasir yn y cynllun.

Rhaid i'r cynllun amlinellu ein hymrwymiad i sicrhau bod rhai dosbarthiadau o wybodaeth megis polisïau a gweithdrefnau, cofnodion cyfarfodydd, adroddiadau blynyddol ac adroddiadau ariannol ar gael fel rhan o'n gweithgareddau busnes arferol.

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi mabwysiadu'r cynllun cyhoeddi enghreifftiol sydd wedi cael ei ddatblygu gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi datblygu dogfen benodol sy'n diffinio'r dosbarthiadau hyn i swyddfeydd comisiynwyr heddlu a throseddu er mwyn rhoi arweiniad ar y mathau o wybodaeth y dylem fod yn ei chyhoeddi dan bob un o'r saith pennawd yn y cynllun cyhoeddi enghreifftiol. Er mwyn i ni fodloni ein hymrwymiad i gyhoeddi gwybodaeth, rydym wedi datblygu Arweiniad i Wybodaeth sy'n cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol.

Mae'r wybodaeth a ryddheir gennym yn unol â'r cynllun cyhoeddi yn cynrychioli'r isafswm y mae'n rhaid i ni ei datgelu. Os oes eisiau gwybodaeth arnoch nad yw wedi'i rhestru yn y cynllun, gallwch ofyn amdani o hyd trwy gyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth.

Byddwn yn glynu wrth rwymedigaethau dan ddeddfwriaeth anabledd a gwahaniaethu ac unrhyw ddeddfwriaeth arall i ddarparu gwybodaeth ar ffurf a fformatau eraill wrth ddarparu gwybodaeth yn unol â’r cynllun hwn.

Taliadau y gellir eu codi am wybodaeth a gyhoeddir dan y cynllun cyhoeddi hwn

Diben y cynllun hwn yw sicrhau bod cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl ar gael yn rhwydd gyda chyn lleied o anghyfleustra a chost i'r cyhoedd â phosibl. Bydd y taliadau a godir gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu am ddeunydd a gyhoeddir yn arferol yn cael eu cyfiawnhau ac yn dryloyw ac yn cael eu cadw mor isel â phosibl.

Bydd deunydd sy'n cael ei gyhoeddi a'i ddarllen ar wefan yn cael ei ddarparu yn ddi-dâl.

Gellir codi ffioedd am:

  • Dreuliau cynhyrchu (megis golygu gwybodaeth sydd wedi ei heithrio, argraffu neu lungopïo);
  • Postio;
  • Cydymffurfio â dewis y sawl sy’n gwneud cais ynghylch y fformat yr hoffai dderbyn gwybodaeth ynddo (megis sganio i gryno ddisg).

Gellir codi tâl hefyd am wneud setiau data (neu setiau data rhannol). Os yn berthnasol, bydd y taliadau hyn yn unol â thelerau Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2015, neu â rheoliadau a wnaed dan adran 11b Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, neu gydag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall. Os darperir set ddata i'w hail ddefnyddio dan y Drwydded Llywodraeth Agored, ni chodir tâl am ail ddefnyddio'r wybodaeth.

Os penderfynir codi ffi am gost darparu gwybodaeth, byddwn yn anfon hysbysiad o ffioedd yn nodi'r cyfanswm y dylid ei dalu, gan gynnwys sut rydym wedi cyfrifo'r cyfanswm, cyn gynted â phosibl o fewn y cyfnod ymateb o 20 diwrnod gwaith. Bydd yr ymateb yn cynnwys:

  • Esboniad bod y cyfnod o 20 diwrnod gwaith ar gyfer ymateb i'r cais yn cael ei oedi nes bydd taliad wedi ei dderbyn (disgwylir taliad o fewn tri mis i ddyddiad yr hysbysiad neu byddwn yn tybio nad oes angen ymateb i'r cais mwyach. Bydd y cyfnod ymateb o 20 diwrnod gwaith yn ailddechrau pan fydd y taliad wedi cael ei glirio);
  • Sut i dalu'r ffi; a
  • Hawl i gwyno trwy gyfrwng adolygiad mewnol ac i'r Comisiynydd Gwybodaeth am y ffi a godwyd.

<h2">Cyfrifoldeb dros Gynllun Cyhoeddi Enghreifftiol Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu  a Throseddu

Y Pennaeth Sicrwydd a Chydymffurfiaeth sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros ein Cynllun Cyhoeddi. Y Swyddog Llywodraethu sy'n gyfrifol am gynnal a rheoli'r cynllun.