1 Medi 2021

AGENDA

Rhaid i'r rhai sy'n bresennol sicrhau bod penderfyniadau a thrafodaethau yn y cyfarfod yn cefnogi a pharchu:

  • Blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu a Throsedd;
  • Ein cyfrifoldebau o dan Safonau'r Gymraeg;
  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant;
  • Egwyddorion y Cod Moeseg: Atebolrwydd, Uniondeb, Bod yn Agored, Tegwch, Arweinyddiaeth, Parch, Gonestrwydd, Gwrthrychedd ac Anhunanoldeb.

1. Ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Cadarnhau Cofnodion a Phwyntiau Gweithredu'r cyfarfod a gynhaliwyd ar y 7fed o Fehefin 2021.

Oherwydd y pandemig presennol, yn hytrach na chael eu cynnwys i’w trafod fel arfer ar agenda 7 Mehefin 2021, dosbarthwyd rhai adroddiadau y tu allan i’r cyfarfod er mwyn cael sylwadau arnynt. Cafodd unrhyw gwestiynau a godwyd eu casglu a’u cynnwys mewn cynllun gweithredu a anfonwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd at Heddlu Gwent am ymateb. Dylid ystyried yr ymatebion yn y cynllun gweithredu hwn ochr yn ochr â chofnodion y cyfarfod.

3.

a) Adroddiad Perfformiad Gweithredol yn erbyn Blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu a Throsedd Chwarter 1 2021-22 - Dirprwy Brif Gwnstabl  

b) Adroddiad Diweddaru'r Prif Gwnstabl

c) Adroddiad Diweddaru Rhaglen Uplift - Prif Gwnstabl

d) Adroddiad Perfformiad Safonau Proffesiynol Chwarter 1 2021-22 - Dirprwy Brif Gwnstabl/ Pennaeth Safonau Proffesiynol

e) Adroddiad Diweddaru Covid 19 -Prif Gwnstabl

f)  Adroddiad Perfformiad Ariannol Chwarter 1 2021-22  Atodiad - Prif Swyddog Cyllid

g) Diweddariad ar y Cynllun Ariannol Tymor Canolig     - Prif Swyddog Cyllid  

h) Adroddiad Rheoli Integredig Troseddwyr - Prif Gwnstabl Cynorthwyol

i)  Adroddiad Blynyddol Gwirfoddolwyr- Prif Gwnstabl Cynorthwyol

j) Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg Heddlu Gwent -Dirprwy Brif Gwnstabl 

k) Adroddiad Chwe-misol Stopio a Chwilio - Prif Gwnstabl

l)  Adroddiad Blynyddol y Strategaeth Rheoli Fflyd 2020/21Prif Swyddog Cynorthwyol Adnoddau

m) Adroddiad Blynyddol Digidol TGCh- Prif Swyddog Cynorthwyol Adnoddau

4.  Mae'r wybodaeth yn yr adroddiad(au) isod wedi bod yn destun gofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018 a phrawf budd y cyhoedd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent a bernir ei bod wedi'i heithrio rhag cyhoeddiad dan Adran 7. 

5. 

a) Cyflwyniad ar y Briff Asesiad Strategol a'r Briff Gofyniad Strategol

b) Y Gofrestr Risg Strategol Ar y Cyd

c)  Diweddariad Cydweithio - Crynodeb Gweithredol o Feysydd Gweithredol

d)  Cofnodion Drafft y Cydbwyllgor Archwilio, cyfarfod 10fed Mehefin 2021, 28 Gorffennaf

6.  Unrhyw Fater Arall

7.  Adnabod unrhyw risgiau sy'n codi o'r cyfarfod hwn