Youf Gang yn rhoi cymorth i ffoaduriaid Wcráin

8fed Mawrth 2022

Mae plant a phobl ifanc sy'n ymwneud â Shaftesbury Youf Gang yng Nghasnewydd wedi cael eu canmol am eu hymdrechion yn codi arian a chasglu rhoddion ar gyfer dioddefwyr y rhyfel yn Wcráin.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae'r delweddau a'r straeon o'r Wcráin am yr ymosodiad barbaraidd hwn ar wladwriaeth ddemocrataidd wedi codi braw ar draws y byd. Mae ymddygiad ffiaidd lluoedd arfog Rwsia, dan gyfarwyddyd Putin, wedi bod yn anghredadwy. Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i deuluoedd a ffrindiau'r rhai sydd eisoes wedi marw yn y rhyfel disynnwyr hwn.

“Mae'n amser i uno, nid i rannu. Mae Llywodraeth y DU eisiau  ehangu mynediad i'r DU i ffoaduriaid Wcráin ac rwyf yn hyderus y bydd Cymru, fel bob amser, yn croesawu pobl anghenus.

"Mae'r gefnogaeth hon yn amlwg yn lleol, a hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â Shaftesbury Youf Gang am eu hymateb dyngarol i ryfelgarwch anhrugarog Putin.  Mae'r bobl ifanc wedi dychryn gan yr hyn maen nhw wedi ei weld a'i glywed, ac maen nhw wedi trefnu raffl i gefnogi ffoaduriaid sydd wedi cael eu gorfodi i ddianc o'u cartrefi a'u gwlad. Maen nhw wedi bod yn brysur yn casglu eitemau hanfodol hefyd, fel pethau ymolchi a chewynnau, a fydd yn cael eu danfon i'r bobl sydd eu hangen.

“Mae'r bobl ifanc sy'n ymwneud â threfnu'r casgliadau hyn ac yn codi arian yn glod i'w cymuned ac yn esiampl wych i bobl eraill sydd eisiau gwneud gwahaniaeth er gwell.”

I ddysgu mwy am Shaftesbury Youf Gang ewch i https://shaftesburyyoufgang.wordpress.com

Mae elusennau’r Pwyllgor Argyfyngau a phartneriaid lleol yn Wcráin a'r gwledydd cyfagos yn darparu bwyd, dŵr, lloches a chymorth meddygol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.dec.org.uk