Y Gweinidog Diogelwch yn lansio Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yng Nghymru

14eg Mai 2019

Mae'r Gweinidog dros Ddiogelwch Cenedlaethol, Ben Wallace AS, wedi lansio Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol y llywodraeth yng Nghymru.

Rhan allweddol o'r Strategaeth yw rhaglen beilot i gyflwyno Cyd-gysylltwyr Cymunedol, sy'n cael eu hariannu gan Y Swyddfa Gartref, yng Ngwent, Avon a Gwlad yr Haf, Glannau Mersi, Bradford a Brighton.

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi rhoi arian ychwanegol tuag at gomisiynu gwasanaethau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn rhan o droseddau difrifol a chyfundrefnol hefyd.

Dywedodd Mr Wallace: “Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yw'r bygythiad mwyaf niweidiol a marwol i ddiogelwch cenedlaethol yn y DU. Mae'n effeithio ar bob un ohonom ni - o Fae Colwyn i Ynys y Barri, mae troseddwyr difrifol a chyfundrefnol yn gweithredu ledled Cymru. Maen nhw'r un mor amlwg mewn trefi arfordirol a phentrefi gwledig ac ydyn nhw yn y dinasoedd.

“Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn gwaith megis Cyd-gysylltwyr Cymunedol Casnewydd. Dyna pam roeddem ni’n uchelgeisiol gyda’r rhaglen beilot, ac, o weld y llwyddiannau yn y fan hon, dyna pam rydym yn parhau i fuddsoddi yn y rhaglen.

“Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn lwyddo.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae troseddau difrifol a chyfundrefnol yn effeithio ar bob cymuned ledled Cymru ac ni all un asiantaeth ar ei phen ei hun ddatrys y broblem hon.

“Mae angen i'r heddlu, busnesau, awdurdodau lleol, y GIG, y trydydd sector, ysgolion a thrigolion gydweithio i fynd i'r afael â'r broblem. Mae angen ymyrryd yn gynnar. Mae angen cadernid cymunedol.

“Rydym yn gwneud gwaith arloesol yma yng Ngwent sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau'n barod ac rwy'n hyderus y gallwn ddysgu yn sgil y llwyddiant hwn a'i ail greu ledled Cymru."

Mae Cyd-gysylltydd Cymunedol Gwent, Prif Arolygydd Paul Davies o Heddlu Gwent, yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth St Giles a Crimestoppers ar raglen sy'n cael ei darparu i bob un o'r naw ysgol uwchradd yn ninas Casnewydd.

Mae'n helpu i addysgu pobl ifanc am beryglon troseddau difrifol a chyfundrefnol ac yn eu hannog i hysbysu am bryderon ac mae wedi cyrraedd 5,400 o ddisgyblion hyd yn hyn.

Mae St Giles a Barnardo hefyd yn gweithio gyda 26 o blant o oedran ysgol uwchradd sydd wedi cael eu canfod i fod mewn perygl o gael eu tynnu i mewn i droseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae St Giles yn darparu cymorth dwys ac arbenigol sy'n cael ei arwain gan gymheiriaid. Mae Barnado'n cynnig pecynnau pwrpasol gyda chyfleoedd megis gweithgareddau chwaraeon trwy’r cynllun Dyfodol Cadarnhaol, gweithgareddau garddio a chelf i dynnu sylw'r plant oddi wrth ffordd droseddol o fyw.

Dywedodd Prif Arolygydd Paul Davies: “Mae troseddau difrifol a chyfundrefnol yn faes cymhleth, ac mae atal ac ymyrryd yn gynnar yn hollbwysig wrth geisio rheoli'r bygythiad hwn yn effeithiol.

“Mae rhoi cymorth i'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau - ein plant - ochr yn ochr ag asiantaethau partner yn rhan hanfodol o'n gwaith."

Dywedodd Jane Hutt AC, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru:

“Rwyf yn croesawu lansiad y Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yng Nghymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi i wneud ein gwlad yn fwy diogel trwy weithredu ar y cyd i fynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol a'u heffaith andwyol ar gymunedau a phobl fregus.”

Mae troseddau difrifol a chyfundrefnol yn broblem gymhleth a chudd i raddau helaeth sy'n effeithio ar fwy o ddinasyddion yn y DU nac unrhyw fygythiad arall i ddiogelwch cenedlaethol. Amcangyfrifir eu bod yn costio isafswm o £37 biliwn i'r DU bob blwyddyn.

Mae'r Strategaeth newydd - a gafodd ei lansio yn Llundain ym mis Tachwedd i ddechrau - yn amlinellu sut bydd y Llywodraeth yn amddiffyn y DU yn erbyn y bygythiad hwn, yn dod o hyd i'r tramgwyddwyr ac yn eu dwyn gerbron llys.