Y Comisiynydd yn cefnogi prosiect ymwybyddiaeth ddiwylliannol

29ain Gorffennaf 2026

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi dyfarnu cyllid i brosiect sy'n ceisio meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ddiwylliannol ymysg plant a phobl ifanc.

Mae'r prosiect yn cael ei ddarparu gan Cynefin Pamoja ac mae’n gweithio gydag ysgolion cynradd yng Ngwent i ddarparu sesiynau sy'n ymchwilio i amrywiaeth o faterion, gan gynnwys yr arferion crefyddol sy'n cael eu dathlu yng Nghymru, hunaniaeth ddiwylliannol, a sut gall pobl ifanc godi llais os ydynt yn profi bwlio neu gasineb.

Nod y gweithdai yw helpu pobl ifanc o wahanol gefndiroedd i ddeall diwylliannau ei gilydd yn well, gan roi'r hyder iddynt i godi llais am faterion sy'n effeithio arnynt.

Mae'r prosiect yn cefnogi'r blaenoriaethau a amlinellir yng Nghynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd ac mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan arian sydd wedi cael ei adfeddu o enillion troseddol. Gall grwpiau cymunedol wneud cais am grantiau rhwng £1,000 a £50,000 i gefnogi mentrau lleol.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae poblogaeth Gwent yn amrywiol ac yn cynyddu. Mae plant o nifer o wahanol wledydd, diwylliannau a chefndiroedd yn ein hysgolion. 

"Mae'r sesiynau a ddarperir gan Cynefin Pamoja yn ategu'r gwaith mae athrawon yn ei wneud yn y dosbarth. Maen nhw hefyd yn helpu pobl ifanc i ddeall a pharchu diwylliannau ei gilydd, gan gydnabod ar yr un pryd y gwerthoedd a rennir a'r ymdeimlad o gymuned sy'n dod â ni at ein gilydd yma yng Ngwent.

"Maen nhw'n meithrin dealltwriaeth a pharch ymysg pobl ifanc, helpu i greu cymunedau ysgol lle mae gwahaniaeth yn cael ei werthfawrogi, bwlio a chasineb yn cael eu herio, a lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn gallu perthyn."