Y Comisiynydd yn cefnogi prosiect Ieuenctid yng Nghasnewydd

2il Mehefin 2026

Mae Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yn cefnogi Prosiect Urban Safe y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) yng Nghasnewydd.

Mae gweithwyr ieuenctid yn cynnal pedair sesiwn galw heibio yr wythnos ledled y ddinas, gan gynnig lle diogel i bobl ifanc fynd, cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau, a chefnogaeth gyda gwaith ysgol, ysgrifennu CV, a thechnegau cyfweld ar gyfer swyddi.

Mae tua 500 o bobl ifanc wedi manteisio ar y prosiect ers ei lansio y llynedd.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Mae hwn yn brosiect gwych sy'n rhoi lle diogel i bobl ifanc yn ein cymunedau ac wyneb diogel, cyfarwydd y gallan nhw droi ato am help, cefnogaeth ac i gael hwyl gyda'u ffrindiau.

"Mae twf y prosiect yn cyfleu ei lwyddiant, ac rwy'n falch o fod wedi gallu ei gefnogi trwy fy Nghronfa Gymunedol."

Mae'r prosiect yn cefnogi'r blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yng Nghynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd ac mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan ddefnyddio arian sydd wedi’i adfer o enillion troseddu. Gall grwpiau cymunedol wneud cais i'r gronfa am grantiau sy'n amrywio o £1,000 i £50,000 i gefnogi mentrau lleol.

Dywedodd Nazrul Islam o EYST: "Rydyn ni wedi cael ymateb hynod gadarnhaol i'r prosiect hwn, sydd wedi ein harwain i ehangu nifer y sesiynau sydd ar gael. Un o'n cryfderau mwyaf yw bod y gweithwyr ieuenctid sy'n cyflwyno'r sesiynau hyn wedi cael eu magu yn yr un cymunedau â'r bobl ifanc maen nhw'n eu cefnogi. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth uniongyrchol i ni o'r heriau maen nhw'n eu hwynebu a'r gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw.

"Mae pobl ifanc yn gwerthfawrogi cael amgylchedd diogel, croesawgar lle y gallan nhw gymdeithasu, datblygu sgiliau, a theimlo bod pobl yn gwrando arnyn nhw, ac mae cyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn ein galluogi i ddarparu hynny’n union."