Y Comisiynydd yn cefnogi prosiect diogelwch i bobl ifanc agored i niwed

18fed Medi 2026

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yn cefnogi prosiect sy'n rhoi hyfforddiant i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n agored i niwed ar broblemau yn cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, perthnasoedd iach a diogelwch ar-lein.

Mae Canolfan TOGS yn Nhorfaen yn darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc gydag anableddau corfforol, dysgu neu synhwyraidd.

Nod y sesiynau yw helpu pobl ifanc i adnabod a deall ymddygiad a allai eu gwneud yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan drosedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ecsbloetiaeth.

Meddai Jane Mudd: "Yn fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder, addewais amddiffyn pobl agored i niwed yn ein cymunedau.

"Trwy gefnogi TOGS i ddarparu cyfleoedd dysgu i bobl yn eu harddegau sy'n agored i niwed, ar adeg yn eu bywydau pan allan nhw fod yn wynebu mwy o risgiau, rydym yn eu helpu nhw i gadw eu hunain yn ddiogel ac i fyw bywydau hapusach, mwy diogel."

Meddai Rebecca Driscoll o TOGS: "Mae'r bobl ifanc yn gallu ei chael hi'n anodd deall bwriadau pobl eraill, a allai eu gwneud nhw'n fwy agored i gael eu heffeithio gan droseddu, ecsbloetiaeth neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

"Gellir dylanwadu'n hawdd ar lawer o'n pobl ifanc, ac mae'r pwysau i wneud ffrindiau yn gallu eu harwain nhw i sefyllfaoedd peryglus yn y gymuned. Hefyd, mae teimlo na allan nhw fynd allan oherwydd y risgiau hyn yn gwneud pobl yn fwy ynysig, ac yn effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles.

"Mae'r sesiynau hyn yn helpu pobl ifanc i gael y wybodaeth a'r hyder angenrheidiol i gadw'n ddiogel wrth chwarae rhan weithredol ac ystyrlon yn eu cymunedau."