Y Comisiynydd yn cefnogi Llysgenhadon Ieuenctid Treftadaeth y Byd
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yn cefnogi Llysgenhadon Ieuenctid Treftadaeth y Byd Blaenafon gyda phrosiect sy'n canolbwyntio ar droseddau tirwedd.
Grŵp ieuenctid yw Llysgenhadon Ieuenctid Treftadaeth y Byd i bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed sy'n defnyddio tirwedd hanesyddol unigryw Blaenafon i'w helpu i fagu hyder, datblygu sgiliau a gwella eu cyfleoedd i gael swyddi.
Mae aelodau'n cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brosiectau trwy gydol y flwyddyn ac yn cael cyfleoedd i ymweld â Safleoedd Treftadaeth y Byd ledled y wlad. Yn 2022, rhoddodd y grŵp groeso i Ddug a Duges Caergrawnt a’u dysgu nhw am hanes glofaol Blaenafon.
Ar gyfer y prosiect diweddaraf bydd y bobl ifanc yn ymchwilio i effaith troseddau tirwedd cyffredin yn yr ardal, fel beicio oddi ar y ffordd anghyfreithlon a thipio anghyfreithlon, a byddant yn cynllunio ymgyrchoedd gwybodaeth i helpu i amddiffyn eu hamgylchedd. Cafodd ei ariannu trwy Gronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Yn fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder, ymrwymais i roi cymorth i blant a phobl ifanc yn ein cymunedau trwy gefnogi prosiectau sy'n rhoi cyfleoedd cadarnhaol a helpu eu datblygiad personol ac emosiynol. Rydym yn gwybod bod hyn yn gallu bod yn allweddol wrth eu dargyfeirio nhw oddi wrth drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Mae Llysgenhadon Ieuenctid Treftadaeth y Byd yn grŵp unigryw sy'n defnyddio Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon fel catalydd ar gyfer prosiectau sydd wedi eu cynllunio i wella bywydau pobl ifanc lleol trwy ddatblygu eu sgiliau, ehangu eu gorwelion a meithrin ymdeimlad gwirioneddol o berthyn. Mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brosiectau cyffrous, ymweld â lleoliadau hanesyddol ledled y DU ac ymgysylltu â'u hanes lleol a'u hamgylchedd naturiol.
"Mae problemau fel beicio oddi ar y ffordd a thipio anghyfreithlon yn broblemau go iawn yn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon ac rwyf yn edrych ymlaen at weld canlyniadau'r prosiect hwn."