Y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn canmol ymateb Heddlu Gwent i Coronafeirws

19eg Mawrth 2020

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi canmol ymateb y gwasanaethau cyhoeddus i'r argyfwng rhyngwladol sydd wedi cael ei achosi gan Coronafeirws.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Hoffwn ddiolch i swyddogion a staff heddlu, gweithwyr gofal iechyd, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill sy'n gweithio ddydd a nos i reoli'r sefyllfa sy'n datblygu yma yng Ngwent yn sgil Coronafeirws.

"Mae fy swyddfa mewn cysylltiad dyddiol gyda Grŵp Rheoli Aur Heddlu Gwent sydd wedi cael ei sefydlu i ymateb i'r argyfwng, a hoffwn sicrhau trigolion bod popeth posibl yn cael ei wneud ar hyn o bryd i gynllunio ar gyfer y misoedd i ddod".

"Mae hwn yn argyfwng rhyngwladol ond mae pethau y gallwn ni eu gwneud i helpu i arafu lledaeniad y feirws ac amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

“Dilynwch y cyngor gan ffynonellau y gellir ymddiried ynddyn nhw, fel Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a rhannwch wybodaeth gyda ffrindiau a theulu nad ydyn nhw ar-lein.

"Daw'r pwysau digynsail hwn ar y gwasanaethau cyhoeddus yn syth ar ôl y llifogydd a welwyd mewn rhannau o Went ychydig wythnosau yn ôl. Profodd y llifogydd hynny ein bod ni'n gryfach pan rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd ac mae'r un peth yn wir yn awr.

“Mae’r etholiadau comisiynwyr heddlu a throsedd a oedd i fod i ddigwydd ym mis Mai wedi cael eu gohirio yn awr a byddant yn digwydd ym mis Mai 2021.

"Byddaf yn parhau yn fy swydd nes bydd yr etholiadau wedi eu hail drefnu'r flwyddyn nesaf ac rwyf wedi ymroi yn llwyr i barhau i weithio gyda Heddlu Gwent i gadw trigolion Gwent yn ddiogel."