Swyddogion newydd yn barod i fynd ar ddyletswydd

18fed Medi 2023

Yr wythnos yma gwnaethom groesawu 34 o swyddogion heddlu newydd a 13 o swyddogion cefnogi cymuned newydd i Heddlu Gwent.

Mae’r swyddogion wedi cwblhau eu hyfforddiant a byddant yn cael eu hanfon at dimau plismona ledled pum sir Gwent yn awr.

Rwyf wedi ymrwymo i gynyddu swyddi swyddogion heddlu yng Ngwent ac rwy'n falch ein bod heddiw mewn sefyllfa llawer gwell na phan gefais fy ethol gyntaf yn 2016, gyda mwy na 200 o swyddogion heddlu ychwanegol yn gwasanaethu ein cymunedau.

Dymunaf bob hwyl i’r recriwtiaid newydd gyda’u gyrfaoedd yn y dyfodol.