Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent yn ennill gwobr aur genedlaethol am ei chynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd

29ain Gorffennaf 2026

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am ansawdd uchel ei chynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd.

O dan y cynllun yma, mae gwirfoddolwyr hyfforddedig o'r gymuned leol, sy'n cael eu rheoli gan Swyddfa'r Comisiynydd, yn ymweld â dalfeydd yr heddlu yn ddirybudd er mwyn gwirio sut mae pobl sy'n cael eu cadw yno'n cael eu trin, amodau'r ddalfa, ac i sicrhau bod eu lles a'u hawliau'n cael eu parchu. Maent yn adrodd eu canfyddiadau wrth Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ac mae'n un o'r ffyrdd mae'r Comisiynydd yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar ran y cyhoedd.

Mae'r Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd (ICVA) - y sefydliad cenedlaethol o aelodau sy'n cefnogi, arwain a chynrychioli'r cynlluniau hyn - wedi datblygu fframwaith sicrwydd ansawdd i asesu pa mor dda mae'r cynlluniau'n cydymffurfio â'r cod ymarfer sy'n llywodraethu ymweliadau â dalfeydd.

Cafodd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent ei chydnabod gyda gwobr sicrwydd ansawdd aur gan ICVA yn ei seremoni wobrwyo ar 8 Gorffennaf.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd: “Mae Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn gwneud swydd hollbwysig, yn sicrhau bod Heddlu Gwent yn glynu wrth y safonau uchaf a bod carcharorion yn cael eu trin yn briodol. Maen nhw'n chwarae rhan bwysig yn helpu fy swyddfa i graffu’n drwyadl ar waith Heddlu Gwent ac yn darparu goruchwyliaeth annibynnol sy'n helpu i feithrin hyder y cyhoedd mewn plismona.

"Rwyf wrth fy modd bod ansawdd uchel y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol, a hoffwn ddiolch i fy nhîm a'r ymwelwyr eu hunain am eu holl waith caled."

Meddai'r Fonesig Anne Owens, Cadeirydd ICVA: "Unwaith eto, mae'r gwobrau hyn yn dangos gwerth a phwysigrwydd Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, gyda hyd yn oed mwy o gynlluniau'n derbyn y wobr 'platinwm' uchaf. Mae hefyd yn adlewyrchu'r gwaith hollbwysig mae ICVA yn ei wneud yn darparu cymorth a hyfforddiant i wirfoddolwyr a chynlluniau ledled y wlad".

Meddai Sherry Ralph, Prif Weithredwr ICVA: "Mae'r fframwaith sicrwydd ansawdd yn golygu ymrwymiad sylweddol a chynyddol i sicrhau bod y cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd, bod gwelliannau'n cael eu gwneud pan fydd eu hangen, a bod arfer ardderchog yn cael ei rannu. Eleni, rydym wedi cryfhau ein dull gwaith hefyd trwy ganolbwyntio mwy ar leisiau gwirfoddolwyr, gan sicrhau bod profiadau a safbwyntiau Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn cael eu gwreiddio o fewn cynlluniau a'u hadlewyrchu mewn asesiadau, yn arbennig ar lefelau uwch y fframwaith. Hoffwn longyfarch cynlluniau ar yr hyn maen nhw wedi ei gyflawni a diolch iddynt am eu hymroddiad parhaus."