Rhyddhau'r ffigyrau trosedd diweddaraf

29ain Hydref 2020

Mae'r data trosedd diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dangos cwymp chwech y cant yn y troseddau a gofnodwyd yng Ngwent rhwng Mehefin 2019 a Gorffennaf 2020. 

Ar y cyfan cwympodd troseddau a gofnodwyd yn y DU bedwar y cant yn ystod yr un cyfnod.

Dengys y ffigyrau bod gan Went un o'r lefelau isaf o droseddau cofnodedig yn y DU.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae'r ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn pwysleisio’r ffaith bod Gwent yn parhau i fod yn un o'r llefydd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddo, ac i ymweld ag ef, yn y DU.

"Serch hynny, mae meysydd lle rydym yn gwybod bod nifer y troseddau sy'n cael eu riportio gan ddioddefwyr yn llawer is na'r nifer sy'n cael eu cyflawni mewn gwirionedd.

"Rydym yn gwybod bod nifer yr achosion o gam-drin a thrais domestig sy'n cael eu riportio yn parhau i fod yn isel. Mae hyn yn achos pryder mawr ar hyn o bryd pan mae cymaint ohonom yn gaeth i'n cartrefi. Hoffwn annog unrhyw un sydd wedi dioddef y troseddau hyn i gyflwyno eu hunain a'u riportio. ‘Does dim rhaid i chi ddioddef yn dawel ac mae cymorth ar gael."

Ychwanegodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Rydym wedi ymroi yn barhaus i leihau ac atal trosedd ledled Gwent ac rydym yn falch bod y ffigyrau a rannwyd heddiw yn gallu helpu ein cymunedau i deimlo’n fwy diogel yn y llefydd maen nhw’n byw a gweithio ynddynt ac yn ymweld â nhw. Rydym yn cydnabod bod pawb ohonom wedi wynebu heriau gwahanol iawn yn 2020 a thrwy gydol y pandemig rydym wedi canolbwyntio ar amddiffyn y bobl fwyaf bregus, fel bob amser. Mae ein neges yn glir - os oes angen ein help ni arnoch chi rydym yma i’ch cefnogi chi.”

Os ydych chi'n profi cam-drin domestig a thrais rhywiol, mae cyngor ar gael ar wefan Diogelu Gwent.

Gallwch ffonio Byw Heb Ofn, llinell gymorth Llywodraeth Cymru, am ddim ar 0808 8010 800 hefyd. Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.

Mae'r data trosedd diweddaraf ar gyfer Cymru a Lloegr ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.