Prosiect pobl ifanc yn darparu gwersi hunan-amddiffyniad

12fed Awst 2019

Roeddwn i’n falch o weld dau brosiect, a ariennir gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn cyd-weithio i ddarparu gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc yn ardal Dyffryn, Casnewydd.

Mae Duffryn Community Link yn cefnogi ac yn darparu gweithgareddau i ddifyrru pobl ifanc ac wedi ymuno â Heads of the Valleys Tang Do So, a leolir yng Nglyn Ebwy, er mwyn cynnig nifer o wersi hunan-amddiffyniad. Mae’r gwersi yn helpu pobl ifanc magu hyder wrth ymgymryd â gweithgaredd corfforol cadarnhaol.

Mae’n wych i weld y ddau brosiect yma’n cyd-weithio er lles y gymuned.