Prosiect hip hop yn helpu i gadw plant Torfaen yn brysur ac egnïol dros yr haf
Cafodd plant a phobl ifanc Torfaen gyfle i ddysgu sgiliau dawns hip-hop dros wyliau'r haf, diolch i gyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Darparodd Hip Hop 12 sesiynau trwy gydol yr haf, gan roi cyfle i blant ddysgu sut i ddefnyddio desgiau cymysgu, arfer eu sgiliau dawns, a bod yn greadigol gyda chelf stryd. Helpodd y prosiect y bobl ifanc i wneud ffrindiau, rhoi tro ar rywbeth newydd, a datblygu sgiliau mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Nod y sesiynau yw hybu hyder, hunan-fri a gwydnwch, a rhoi cyfle i'r plant wneud rhywbeth creadigol yn ystod gwyliau'r haf.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae wedi bod yn wych gweld plant o Dorfaen yn dawnsio a dysgu sut i droelli a chymysgu ym mhrosiect gwyliau'r haf Hip Hop 12. Rydym yn gwybod bod y gwyliau hir dros yr haf yn gallu rhoi plant mewn perygl o ymddieithrio a chael eu denu i gyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae prosiectau fel yr un yma'n eu cadw nhw'n hapus ac yn iach, ac yn defnyddio eu hegni yn gadarnhaol.
"Roeddwn wrth fy modd i gefnogi'r sesiynau hyn gydag arian o fy Nghronfa Gymunedol. Mae Rhagor o wybodaeth am gyfleoedd cyllid ar fy ngwefan."