Pobl ifanc yn lleisio eu barn am Heddlu Gwent

13eg Mawrth 2024

Mae fy nhîm yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc o Gwmbrân i geisio deall eu canfyddiadau o Heddlu Gwent yn well.

Mae chwalu rhwystrau rhwng cymunedau a'r heddlu'n hollbwysig, ac mae'r gwaith yma'n ein helpu ni i ddeall profiadau personol pobl ifanc o blismona a sut maent yn teimlo wrth ymwneud â swyddogion.

Bydd eu sylwadau'n cael eu casglu a'u hadolygu, a byddant yn helpu i lywio gwaith Heddlu Gwent a fy swyddfa yn y dyfodol. Dyma un o'r ffyrdd rydym yn sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed.

Ar hyn o bryd mae Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân yn derbyn arian gan fy nghronfa gymunedol i gadw'r ganolfan ar agor ac ar gael i bobl ifanc gyda'r nos. Mae'n lleoliad delfrydol sy'n rhoi rhywle diogel i bobl ifanc fynd yng nghanol y dref i gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgareddau a chael mynediad at amrywiaeth eang o gymorth a fydd yn eu helpu gyda'u haddysg neu gyflogaeth.