Plant Blaenau Gwent yn rhybuddio am beryglon yfed a gyrru

27ain Ionawr 2021

Mae plant o Flaenau Gwent wedi cynhyrchu ffilm fer yn rhybuddio oedolion am beryglon yfed a gyrru.

Mae'r plant wedi gweithio gyda'r cwmni cyfryngau Cymru Creations, sydd wedi ennill sawl gwobr, i sgriptio, cyfarwyddo, recordio a golygu'r ffilm, sy'n defnyddio comedi i gyfleu neges ddifrifol iawn am ddiogelwch ar y ffyrdd.

Talwyd am y prosiect trwy Gronfa Gymunedol Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent. Mae’r gronfa'n rhoi cyllid i sefydliadau dielw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc a allai fod mewn perygl o fynd i droseddu neu ymddwyn yn wrthgymdeithasol, neu sydd wedi dioddef trosedd.



Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Eleri Thomas: "Mae'r plant wedi gwneud gwaith gwych yn cyfleu neges rymus iawn mewn ffordd ddoniol a hygyrch.

“Mae Cronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi ei chynllunio i gefnogi prosiectau sy'n caniatáu i bobl ifanc ganolbwyntio ar brosiectau a gweithgareddau cadarnhaol. Mae hyn wedi bod yn bwysicach nag erioed dros y flwyddyn ddiwethaf ac rwy'n falch iawn i weld bod y plant wedi parhau i weithio mor galed yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Cwblhawyd y gwaith ffilmio cyn cychwyn Covid-19 ond mae'r plant wedi bod yn gweithio ers hynny i olygu'r fideo yn eu cartrefi.

Ar ddiwedd y prosiect, bydd pob myfyriwr yn derbyn Gwobr y Celfyddydau mewn gwneud ffilmiau o Trinity College, Llundain, y mae Cymru Creations yn gweithio'n agos gyda nhw i ddarparu’r cam cyntaf tuag at gymhwyster sy'n cyfateb i TGAU yn y Celfyddydau.

Dywedodd Kevin Phillips o Cymru Creations yn Nhredegar: "Rydym wedi bod yn gweithio o bell gyda phob un o'n pobl ifanc trwy gydol y cyfyngiadau symud i sicrhau eu bod yn cadw'n brysur ac yn gadarnhaol yn ystod y pandemig.

"Rwyf yn falch iawn eu bod wedi parhau i weithio'n galed ar eu prosiectau ac wedi cynhyrchu fideo mor wych er gwaethaf popeth."