Peidiwch â chael eich dal gan dwyll rhamant ar Ŵyl Sant Ffolant

12fed Chwefror 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn annog pobl i adnabod arwyddion twyll rhamant ar Ŵyl Sant Ffolant eleni.

Mae twyll rhamant yn digwydd pan fydd sgamiwr yn esgus bod â diddordeb rhamantus yn rhywun ar ôl cwrdd ar-lein er mwyn dwyn eu harian, neu eu twyllo i wyngalchu arian ar eu rhan.

Fel arfer bydd yn meithrin y berthynas dros gyfnod o amser, yn dweud straeon sy’n targedu pobl yn emosiynol er mwyn ceisio cael arian ganddynt. Yn aml bydd yn honni bod aelod o’r teulu’n sâl, neu ei fod ef/hi’n sownd mewn gwlad nad yw eisiau bod ynddi.

Mae dioddefwr cyffredin twyll rhamant yn colli dros £13,000.

Dywed Jeff Cuthbert: “Mae hon yn drosedd erchyll lle mae sgamwyr yn manteisio ar natur hynaws a bregusrwydd pobl. Os ydych wedi cwrdd â rhywun ar-lein ac mae’n  gofyn i chi am arian, neu’n gofyn i chi anfon arian er mwyn ei anfon ymlaen at rywun arall, gwrthodwch a riportiwch y mater.  

“Os ydych chi’n ofni eich bod wedi dioddef twyll rhamant, neu ei fod yn digwydd i chi yn awr, mae help ar gael. Mae gan Heddlu Gwent swyddog pwrpasol sy’n gallu eich helpu, eich cefnogi a rhoi cyngor i chi, a gofynnaf yn daer arnoch i gysylltu.”

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll rhamant, ffoniwch Heddlu Gwent ar 101, neu riportiwch trwy gyfrwng tudalen Facebook Heddlu Gwent. Gallwch gysylltu ag Action Fraud ar 0300 123 2040 hefyd.

Arwyddion eich bod yn dioddef twyll rhamant (oddi wrth Action Fraud):

  • Rydych wedi datblygu perthynas gyda rhywun rydych wedi cwrdd ag ef/â hi ar-lein trwy negeseuon e-bost, testun a galwadau ffôn.
  • Mae eich cariad newydd yn edrych fel model yn y lluniau mae’n eu hanfon atoch chi.
  • Mae’n holi llawer o gwestiynau amdanoch chi ond ddim datgelu llawer amdano/amdani ei hun.
  • Mae’n dechrau eich galw chi wrth lysenw neu’n defnyddio termau fel ‘cariad’ yn gyflym.
  • Mae eisiau cyfathrebu â chi trwy negeseua gwib a negeseuon testun yn hytrach nag ar wefan cariadon neu ystafell sgwrsio lle gwnaethoch chi gwrdd.
  • Nid yw’n ateb cwestiynau sylfaenol ynghylch lle mae’n byw a gweithio.
  • Mae’n dechrau gofyn i chi anfon arian ato/ati.