Ni fydd Tawelwch yn Stopio Trais

11eg Tachwedd 2020

Mae elusen Crimestoppers wedi lansio ymgyrch newydd yn annog pobl i riportio digwyddiadau o drais treisgar yn ddienw.

Nod ymgyrch ‘Ni fydd Tawelwch yn Stopio Trais' yw codi ymwybyddiaeth o effaith trais a chynnig ffordd i unigolion mewn cymunedau godi llais yn ddienw.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae trosedd treisgar yn gallu distrywio bywydau a gadael pobl yn byw mewn ofn. Ni fydd troseddau treisgar yn cael eu goddef ond ni all yr heddlu a phartneriaid fynd i'r afael a'r broblem hon oni bai eu bod yn gwybod amdani.

“Mae'r ymgyrch hwn gan Crimestoppers yn bwysig iawn ac os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am drosedd treisgar, neu bryderon y gallai trosedd ddigwydd, gofynnaf yn daer arnoch chi i'w riportio.”

Dywedodd Ella Rabaiotti, Rheolwr Cymru elusen Crimestoppers:

“Mae trais ar bob ffurf yn cael effaith sylweddol ar ein cymunedau. Mae dull iechyd cyhoeddus o ymdrin â’r mater yn cydnabod bod trais yn broblem y gellir ei hatal sy'n gofyn am ymateb cymdeithasol.

“Rydym yn ategu hyn trwy ymyrraeth gynnar ac addysg i helpu i atal trais rhag digwydd yn y lle cyntaf. Rydym yn sylweddoli efallai eich bod yn agos at droseddu ond efallai y byddwch hefyd eisiau gwneud y peth iawn a dod â thrais yn eich cymuned i ben. Os ydych yn gwybod pwy sy'n cario arfau, neu'n bygwth neu niweidio pobl eraill, gallwch ddweud wrthym a byddwch 100% yn ddienw."

Os ydych yn amau neu os oes gennych wybodaeth am drosedd treisgar ac nid ydych eisiau dweud pwy ydych chi, gallwch roi gwybodaeth yn ddienw i elusen Crimestoppers: 0800 555 111 / https://crimestoppers-uk.org neu os ydych dan 18 oed https://www.fearless.org