Mynd i'r Afael â Phryderon yn Rhymni

23ain Tachwedd 2017

Mae'r heddlu a phartneriaid wedi tynnu sylw at eu hymrwymiad ar y cyd i fynd i'r afael â phroblemau yng Nghwm Rhymni Uchaf yn dilyn cyfarfod adeiladol gyda chynrychiolwyr etholedig ac aelodau'r awdurdod lleol yr wythnos diwethaf.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, a rhoddodd gyfle i Heddlu Gwent a phartneriaid awdurdod lleol drafod sut y gallant fynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned.

Trefnwyd y cyfarfod gan Heddlu Gwent ar gais Dawn Bowden AC a Gerald Jones AS ar ôl i drigolion nodi pryderon am broblemau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu hardal. Roedd swyddogion etholedig lleol, cynrychiolwyr yr heddlu ac aelodau o'r awdurdod lleol yn bresennol.

Fel rhan o'r cyfarfod, cafwyd cyflwyniad gan yr Arolygydd lleol ar yr ymateb plismona. Roedd yr holl bartneriaid, gan gynnwys y cynrychiolwyr etholedig, yn cytuno y byddent yn cydweithio er mwyn mynd i'r afael â'r problemau a godwyd. Er mwyn symud ymlaen, cytunwyd y dylid datblygu strwythur a chynllun addas ar gyfer cydweithio yn yr ardal ac y dylid trefnu digwyddiad cymunedol. Cytunodd y partneriaid hefyd i ystyried datblygu a llunio cylchlythyr cymunedol rheolaidd a fyddai'n cynnwys y wybodaeth allweddol ddiweddaraf ac yn nodi manylion ac enwau cyswllt ar gyfer yr holl asiantaethau perthnasol a all gynnig help a chymorth yn lleol. Cytunodd yr holl bartneriaid hefyd i roi gwybodaeth i'r gymuned yn rheolaidd ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y pryderon a godwyd.

Yn dilyn y cyfarfod, meddai Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Roedd y cyfarfod yn gynhyrchiol ac yn gadarnhaol iawn. Rwy'n deall sut y gall y niwsans difrifol a achosir gan ymddygiad gwrthgymdeithasol a phresenoldeb pobl y mae'n amlwg eu bod wedi bod yn cymryd cyffuriau gael effaith negyddol ar gymunedau lleol. Roedd yn bleser gennyf weld cymaint o bartneriaid yn dod at ei gilydd i drafod sut y gallwn symud ymlaen er mwyn datrys y problemau a fu'n effeithio ar drigolion. Roeddwn yn awyddus i sicrhau bod gan bawb gyfle i godi eu pryderon ac roedd y ffaith bod y tîm plismona lleol, partneriaid a swyddogion etholedig yn bresennol yn brawf o'r dull gweithredu cydgysylltiedig rydym bellach wedi cytuno i'w roi ar waith er mwyn mynd i'r afael â'r problemau hyn yng Nghwm Rhymni Uchaf.

Cyflwynodd yr Arolygydd lleol fanylion y camau y gellir eu cymryd i roi gwybod am droseddau er mwyn casglu cudd-wybodaeth leol a sicrhaodd y cynrychiolwyr lleol fod y timau plismona yn y gymdogaeth yn ymwybodol o'r problemau hyn ac yn ymateb i achosion y rhoddir gwybod amdanynt. Gwnaethom annog cynrychiolwyr lleol, yn eu tro, i annog trigolion i roi gwybod am faterion sy'n peri pryder er mwyn gallu pennu unrhyw batrymau ymddygiad. Bydd hyn yn werthfawr iawn i'n timau plismona yn y gymdogaeth."

Meddai Gerald Jones, yr AS dros Ferthyr Tudful a Rhymni: "Roedd y cyfarfod yn gyfle i mi, Dawn Bowden AC a chynrychiolwyr etholedig y cyngor leisio'r pryderon y mae trigolion wedi'u codi gyda ni. Roedd y cyfarfod yn gam adeiladol tuag at well cyfathrebu rhwng pob parti dan sylw a'r gymuned. Mae nifer o asiantaethau yn rhan o'r broses o fynd i'r afael â phryderon trigolion ac mae'n bwysig bod trigolion yn gwybod pa gymorth sydd ar gael yn y gymuned er mwyn ymdrin â'r problemau a godwyd. Rwy'n ymrwymedig i weithio gyda phob partner er mwyn sicrhau ansawdd bywyd gwell i drigolion lleol."

Meddai Dawn Bowden, yr AC dros Ferthyr Tudful a Rhymni: "Cawsom gyfle llawn i ystyried amrywiaeth o bryderon yr oedd trigolion lleol wedi'u codi gyda ni yn ystod y misoedd diwethaf. Rydym yn awyddus iawn i weithio gyda'r gymuned leol ac i helpu'r Heddlu a phartneriaid eraill wrth wneud mwy o gynnydd mewn perthynas â'r materion hyn. Rhaid i ni ganolbwyntio ar gydweithio, gan fynd i'r afael â phroblemau wrth iddynt godi a rhoi cymorth i'r gymuned. Gwn mai dim ond drwy gydweithio y gallwn wella'r ffordd y mae pobl yn teimlo am y sefyllfa ar hyn o bryd. Fel cynrychiolwyr a etholwyd yn lleol a chyda phartneriaid lleol eraill, bydd y gwaith pwysig iawn hwn yn parhau yn ystod y misoedd nesaf."