Mohammad (Oscar) Asghar AS

17eg Mehefin 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi siarad yn dilyn marwolaeth sydyn Mohammad (Oscar) Asghar AS.

Dywedodd: “Roeddwn yn drist iawn i glywed am farwolaeth Mohammad (Oscar) Asghar AS yr wythnos hon.

“Oscar oedd yr aelod cyntaf o’r Senedd o gefndir lleiafrif ethnig a gweithiais yn agos gydag ef am nifer o flynyddoedd, yn gyntaf yn fy rôl fel Aelod Cynulliad dros Gaerffili ac ers hynny fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent.

“Roedd yn ofalus iawn o’i gymuned ac yn gweithio gyda mi i geisio creu gwell cydlyniant cymunedol yng Nghasnewydd.

“Mae fy nghydymdeimlad gyda’i deulu ar yr adeg drist hon.”