Mae'r Comisiynydd yn croesawu arolwg PEEL diweddaraf Heddlu Gwent

7fed Chwefror 2020

Mae Heddlu Gwent yn gwneud gwaith ‘da' i leihau trosedd a chadw pobl yn ddiogel.

Cynhaliodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (yr Arolygiaeth) arolwg o Heddlu Gwent ym mis Tachwedd y llynedd a rhoddodd radd 'da' i'r llu am ei effeithiolrwydd cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i droseddau, amddiffyn pobl fregus a mynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol.

Mae adroddiad yr arolwg yn nodi hefyd bod y llu yn 'dda' o ran effeithlonrwydd, sy'n cynnwys bodloni galw presennol a'i ddefnydd o adnoddau, yn ogystal â chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod Heddlu Gwent yn darparu gwasanaeth da ac effeithiol i'w drigolion.

"Rwyf yn arbennig o falch i weld y llu'n cael clod am gyflawni mewn perthynas â nifer o'r meysydd blaenoriaeth a nodir yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd, megis atal trosedd, rhoi cymorth i ddioddefwyr a darparu gwasanaeth yn effeithiol.

"Mae wedi gwella'n sylweddol ers yr arolwg diwethaf o ran cam-drin domestig a throseddau difrifol a chyfundrefnol hefyd, ac mae wedi gwella'r ffordd mae'n blaenoriaethu ymchwiliadau.

“Nid oes un llu yn berffaith ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at rai meysydd y mae angen gwaith arnyn nhw, ond rwy'n hynod o ddiolchgar i'r Prif Gwnstabl, a'i swyddogion a staff, am gyflawni'r gwaith hwn mewn cyfnod heriol iawn."

Canfu'r Arolygiaeth fod y llu yn gwneud gwaith da yn dal troseddwyr a datrys ymchwiliadau.

Cafwyd clod hefyd am y cymorth a gynigir i ddioddefwyr yn ystod ymchwiliadau, gydag 89 y cant o'r bobl a ymatebodd i arolwg yn fodlon ar ba mor hawdd oedd hi i gysylltu â Heddlu Gwent a faint o amser roedd y swyddogion yn ei gymryd i gyrraedd y safle.

Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod awydd Heddlu Gwent i barhau i wella'r ffordd y mae'n rhoi cymorth a newyddion i ddioddefwyr. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw penodol at waith da Heddlu Gwent yn ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud â dioddefwyr bregus, yn cyrraedd yn ddigon cyflym i'w cadw nhw'n ddiogel.

Mae'n cydnabod bod amddiffyn pobl fregus yn flaenoriaeth amlwg i'r llu, a bod y llu wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ymateb i ddioddefwyr cam-drin domestig ers yr arolwg diwethaf.

Canfu'r arolygwyr fod y llu wedi defnyddio amrywiaeth eang o wybodaeth i ddeall galw ar gyfer y dyfodol a'i fod yn deall yr hyn mae'r cyhoedd ei angen ar hyn o bryd yn dda. Canfuwyd hefyd bod y llu yn gwneud gwaith da yn blaenoriaethu ei adnoddau a bod ganddo gynllun ariannol tymor canolig cynhwysfawr ar waith i'r diben hwn.

Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: "Ein nod yw sicrhau bod pobl Gwent yn hyderus bod eu llu yn eu helpu nhw i deimlo'n ddiogel yn eu cymunedau.

“Rydym yn falch o'r adroddiad arolygu hwn ac rwyf yn gobeithio y bydd yn rhoi sicrwydd i drigolion lleol ein bod yn gweithio'n galed yn darparu gwasanaethau a gwneud gwahaniaeth mawr wrth fynd i'r afael â throsedd a rhoi cymorth i ddioddefwyr, gan wneud defnydd effeithlon o’r arian rydym yn ei dderbyn ar yr un pryd.

"Mae bob amser lle i ni gyflawni mwy ac mae'r adroddiad arolygu hwn yn feincnod defnyddiol i fesur ein perfformiad ac i ganfod y meysydd y mae angen i ni fod yn canolbwyntio mwy arnynt.”

Nododd yr arolwg feysydd lle y gallai Heddlu Gwent wella ymhellach.

Er bod yr arolwg yn cydnabod bod arweinwyr yn deall pwysigrwydd ymgysylltu â'r bobl rydym yn eu gwasanaethu yn dda, ac yn eu trin nhw â pharch ac yn deg, byddai Heddlu Gwent yn elwa ar dderbyn mwy o hyfforddiant mewn rhagfarn ddiarwybod.

Canfu'r arolwg fod angen i Heddlu Gwent wella ei ddealltwriaeth o sut mae grym yn cael ei ddefnyddio hefyd. Er ei fod yn cydnabod y gwelliannau sylweddol sydd wedi cael eu gwneud, mae lle i wella eto.

Gwnaed sylw tebyg ynghylch monitro'r defnydd o stopio a chwilio, er ei fod yn cydnabod bod y llu wedi cyflawni'r argymhellion a wnaed yn ystod ei arolwg diwethaf.