Mae Heddlu Gwent yn recriwtio cadetiaid newydd

6ed Mai 2022

Mae Heddlu Gwent yn recriwtio cadetiaid heddlu newydd ledled Gwent.

Mae cadetiaid yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi eu cymunedau, ac yn magu hyder, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd wrth wneud hynny.

Mae'r cynllun yn chwalu rhwystrau a meithrin ymddiriedaeth rhwng pobl ifanc a'r heddlu.

Mae'r cyfnod recriwtio wedi dechrau.  Ewch i wefan Heddlu Gwent i gael manylion.