Lleisiwch eich barn ynglŷn â chyllid yr heddlu yng Ngwent

13eg Tachwedd 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn gofyn am farn trigolion ynglŷn â chyllid yr heddlu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae ymron i 50 y cant o gyllideb gyffredinol Heddlu Gwent yn dod o daliadau treth y cyngor lleol a chyfrifoldeb Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yw pennu'r cyfanswm y mae trigolion yn ei dalu tuag at blismona bob mis. 

I wneud y penderfyniad hwn, mae'n rhaid iddo ystyried y swm o arian mae'r Prif Gwnstabl yn dweud sydd ei angen ar Heddlu Gwent i weithredu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol, a chydbwyso hynny gyda fforddiadwyedd i drethdalwyr lleol.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Rwyf yn gwybod ei bod yn galed ar lawer o bobl ar hyn o bryd, yn arbennig pobl y mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar eu swyddi a'u bywoliaeth. Serch hynny, mae'r pandemig hwn wedi dangos pa mor eithriadol o bwysig yw plismona i amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau.

"Mae sefyllfa ariannol plismona yn y dyfodol yn parhau i fod yn heriol. Mae cyllid Heddlu Gwent gan y llywodraeth wedi gostwng yn sylweddol ers 2010. Mae wedi gorfod gwneud bron i £50 miliwn o arbedion a rhaid iddo arbed £5 miliwn arall erbyn 2024. Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r galw ar blismona wedi cynyddu a bydd yn parhau i gynyddu.

"Mae ein gwaith cynllunio ariannol tymor canolig yn dweud wrthym y byddai codiad o £2 y mis ym mhraesept treth y cyngor ar gyfer eiddo band D arferol yn galluogi Heddlu Gwent i gynnal gwasanaethau ar y lefelau presennol ar gyfer y flwyddyn nesaf. 

"Mae hwn yn benderfyniad eithriadol o anodd i orfod ei wneud, yn arbennig yng nghanol pandemig, ond mae'n un na allaf osgoi ei wneud. Mae gwrando ar bobl Gwent yn hynod o bwysig i mi a, chyn i mi wneud unrhyw benderfyniad ar gyllideb yr heddlu ar gyfer 2021/22, hoffwn glywed eich barn chi. Cwblhewch yr arolwg a lleisiwch eich barn."

Byddai cynnydd o hyd at £2 y mis (yn seiliedig ar eiddo band D) yn galluogi Heddlu Gwent i gynnal y nifer presennol o 1,323 o swyddogion heddlu, a chynnal buddsoddiad blaenorol mewn meysydd sy'n cael blaenoriaeth megis plismona cymdogaeth, amddiffyn plant, trosedd casineb, cam-drin domestig, treisio, ymosodiad rhywiol, a throsedd difrifol a threfnedig.

Byddaf yn cefnogi buddsoddiad Llywodraeth y DU trwy Ymgyrch Uplift hefyd, a fydd yn golygu bod 160 o swyddogion ychwanegol yn ymuno â Heddlu Gwent erbyn diwedd 2022. 

 

Lleisiwch eich barn