Lleisiwch eich barn ynglŷn â chyllid yr heddlu yng Ngwent ar gyfer 2022/23

29ain Hydref 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn gofyn am farn trigolion ynglŷn â chyllid yr heddlu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae ymron i 50 y cant o gyllideb gyffredinol Heddlu Gwent yn dod o daliadau treth y cyngor lleol yn awr a chyfrifoldeb Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yw pennu'r cyfanswm y mae trigolion yn ei dalu bob mis tuag at blismona.

I wneud y penderfyniad hwn, mae'n rhaid iddo ystyried y swm o arian mae'r Prif Gwnstabl yn dweud sydd ei angen ar Heddlu Gwent i weithredu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol, y setliad ariannol terfynol gan Lywodraeth y DU ar gyfer y flwyddyn, a fforddiadwyedd i drethdalwyr lleol.

Meddai Jeff Cuthbert: “Mae'r galw dyddiol ar blismona yn parhau i dyfu. Rwyf wedi ymroi i gael mwy o swyddogion heddlu yng Ngwent ac rwyf yn falch ein bod mewn sefyllfa llawer gwell heddiw nac yr oeddem ni pan gefais fy ethol i ddechrau yn 2016, gyda dros 200 o swyddogion heddlu ychwanegol yn gwasanaethu ein cymunedau yn awr.

"Mae ein gwaith cynllunio ariannol tymor canolig yn dweud wrthym er mwyn galluogi Heddlu Gwent i gynnal gwasanaethau ar y lefelau presennol bod angen cynnydd o £2 y mis ym mhraesept treth y cyngor ar gyfer eiddo band D arferol. Byddai hyn yn caniatáu i ni fuddsoddi mewn 10 swyddog cymorth cymunedol arall i weithio yn ein cymunedau hefyd.

“Mae hwn yn benderfyniad eithriadol o anodd bob tro a hoffwn glywed eich barn chi cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol. Cwblhewch yr arolwg a lleisiwch eich barn."

Byddai cynnydd o hyd at £2 y mis (yn seiliedig ar eiddo band D) yn galluogi Heddlu Gwent i gynnal y nifer presennol o 1,424 o swyddogion heddlu, a chynnal buddsoddiad blaenorol mewn meysydd sy'n cael blaenoriaeth megis plismona cymdogaeth, amddiffyn plant, trosedd casineb, cam-drin domestig, treisio, ymosodiad rhywiol, trosedd difrifol a threfnedig a chymorth i ddioddefwyr. Byddai'n caniatáu i ni greu swyddi ar gyfer 10 swyddog cymorth cymunedol arall hefyd, gan ddod â’r nifer yng Ngwent i 142. Mae hyn yn rhan o gynllun parhaus i fuddsoddi mewn swyddogion cymorth cymunedol, gan gynyddu'r nifer i 175 dros y tair blynedd nesaf.

Dweud Eich Dweud

Mae'r arolwg ar gael mewn fformatau eraill ar gais gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd trwy e-bostio commissioner@gwent.pnn.police.uk neu ffonio 01633 642200.