Gweithdai Fearless yn rhoi gwybodaeth am gadw'n ddiogel a sut i godi llais i bobl ifanc Gwent

22ain Mai 2026

Bydd miloedd o bobl ifanc ledled Gwent yn cael budd o weithdai ynghylch troseddau cyllyll, llinellau cyffuriau a throseddau casineb, diolch i gefnogaeth gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd.

Fearless yw gwasanaeth ieuenctid yr elusen annibynnol Crimestoppers, sydd wedi bod yn helpu i gadw Gwent yn ddiogel am dros 36 o flynyddoedd. Fel sefydliad, mae Crimestoppers yn grymuso pobl i godi llais a riportio troseddau yn ddienw. Mae Fearless yn canolbwyntio ar addysgu a grymuso pobl ifanc, gan eu helpu nhw i ddeall y problemau sy'n effeithio ar eu cymunedau a'u gwneud nhw'n hyderus i wneud gwahaniaeth.

Mae'r gweithdai'n cael eu darparu gan Fearless, sy'n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed, lle mae tystiolaeth yn dangos eu bod fwyaf mewn perygl o naill ai ddechrau ymwneud â throsedd, neu ddioddef trosedd. Trwy'r sesiynau hyn, mae pobl ifanc yn cael cymorth i ddeall y peryglon o ddechrau ymwneud â throsedd, gan gynnwys cario cyllyll ac arfau eraill. Mae pobl ifanc yn cael gwybod sut i riportio trosedd yn ddiogel ac yn ddienw, sy'n eu helpu nhw i ddeall y gwahaniaeth rhwng "cario clecs" niweidiol a riportio cyfrifol, ac maen nhw'n cael eu hannog i rannu unrhyw wybodaeth neu bryderon trwy fearless.org.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Yn fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder ar gyfer Gwent, fe wnes i ymrwymo i leihau trais difrifol ymysg ieuenctid a buddsoddi mewn prosiectau sy'n helpu i gadw pobl ifanc yn ddiogel rhag trosedd.

"Mae'r gwaith mae Fearless yn ei wneud yn gwbl hanfodol. Mae'n cyrraedd pobl ifanc ar gam ffurfiannol yn eu bywydau, ac yn eu helpu nhw i ddeall realiti trosedd a'u grymuso nhw i godi llais a riportio pryderon."

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cefnogi gwaith Fearless yng Ngwent ers 2019. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae mwy na 16,000 o bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol wedi cymryd rhan mewn gweithdai Fearless.

Dywedodd Natasha Graves, Cyd-gysylltydd Ieuenctid Fearless yng Ngwent: "Mae llawer o bobl ifanc yn gweld trosedd fel rhywbeth cyffrous, neu normal hyd yn oed, yn arbennig o'r hyn maen nhw'n ei weld ar-lein neu o'u cwmpas nhw. Nod y sesiynau yma yw chwalu hynny a dangos effaith a chanlyniadau gwirioneddol trosedd, sy'n aml yn cael eu hanwybyddu.

“Rydym eisiau rhoi'r hyder i bobl ifanc wneud eu dewisiadau eu hunain, deall beth sy'n iawn ar eu cyfer nhw, a gwybod ei bod yn iawn i godi llais. Rydym am iddyn nhw deimlo'n wybodus, eu bod yn cael eu cefnogi, a'u bod yn gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain a'u cymuned."