Y Comisiynydd yn cefnogi prosiect gwrywdod cadarnhaol
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cefnogi prosiect sydd â’r nod o hyrwyddo gwrywdod cadarnhaol a herio misogynedd a thrais ar sail rhywedd ymhlith pobl ifanc yng Ngwent.
Mae'r Fenter Gwrywdod Cadarnhaol yn cael ei chynnal gan Media Academy Cymru (MAC) ac mae'n ceisio grymuso pobl ifanc i gydnabod a modelu gwrywdod cadarnhaol ynddyn nhw eu hunain ac eraill. Mae'r prosiect yn hyrwyddo perthnasoedd iach, parchus a'i nod yw helpu i greu cymunedau mwy diogel a mwy cynhwysol.
Mae'n gweithio gyda bechgyn a dynion ifanc sydd wedi'u nodi fel rhai sy'n arddangos agweddau neu ymddygiad sy’n achosi problemau, gan ddefnyddio dull gweithredu gwaith ieuenctid i'w cefnogi i fyfyrio'n feirniadol ar eu syniadau, eu barn a'u gweithredoedd. Mae'r broses hon yn helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i ddatblygu hunaniaeth wrywaidd fwy cadarnhaol.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Mae aflonyddu, cam-drin a thrais yn ein cymunedau yn effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched, ac mae'n hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r ymddygiadau a'r agweddau sy'n cyfrannu at y niwed hwn.
"Trwy ymgysylltu â bechgyn a dynion ifanc yn gynnar, mae gennym ni gyfle i atal niwed yn y dyfodol, gan hefyd eu cefnogi i ddatblygu agweddau iachach a mwy parchus tuag at fenywod a merched.
"Mae'r dysgu o'r prosiect hwn yn cael ei werthuso'n annibynnol gan Brifysgol Abertawe, a fydd yn ein helpu ni i ddeall y materion hyn yn well a llywio ein gwaith i ddatblygu cymunedau mwy diogel i bawb."
Mae'r prosiect yn cefnogi'r blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yng Nghynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd ac mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan ddefnyddio arian sydd wedi’i adfer o enillion troseddu. Gall grwpiau cymunedol wneud cais i'r gronfa am grantiau sy'n amrywio o £1,000 i £50,000 i gefnogi mentrau lleol.
Dywedodd Sam Heatley, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Media Academy Cymru: "Diolch i gyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, rydyn ni wedi gallu ehangu ein gwaith ar draws Gwent. Trwy fynd i'r afael ag agweddau ac ymddygiad sy’n achosi problemau yn gynnar, gallwn helpu i atal bechgyn a dynion ifanc rhag mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yn ddiweddarach mewn bywyd a'u cefnogi i fynd ymlaen i fyw bywydau hapusach a datblygu perthnasoedd iachach."