Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cefnogi menter gymunedol newydd yng Nghasnewydd

26ain Mai 2026

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd, yn cefnogi menter gymunedol newydd yng Nghasnewydd.

Mae Rhaglen Lles Cymunedol a Dargyfeirio Ieuenctid Next Gen Youth yn fenter ataliol flwyddyn o hyd wedi’i lleoli yn Jam’e Masjid Canolog Casnewydd. Ei nod yw lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwella iechyd meddwl a lles, a chryfhau diogelwch cymunedol trwy ymyrraeth gynnar a chymorth dibynadwy, dan arweiniad y gymuned.

Ochr yn ochr â sesiynau galw heibio wythnosol i bobl ifanc, bydd gweithwyr ieuenctid yn cyflwyno gweithgareddau chwaraeon i fechgyn a merched, yn darparu mentora, ac yn cynnal gweithdai i helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnig sesiynau diogel, â chymorth i blant a phobl ifanc niwroamrywiol, yn ogystal â grwpiau lles i rieni â babanod newydd.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Rwy’n falch iawn o gefnogi’r prosiect gwych hwn. Mae mentrau fel Next Gen Youths yn chwarae rhan mor bwysig oherwydd eu bod yn deall anghenion eu cymunedau.

"Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r ddealltwriaeth leol honno ar waith, gan gynnig cefnogaeth feddylgar, bwrpasol sy’n adlewyrchu’r hyn sydd wir ei angen ar bobl a’u bod yn ei werthfawrogi. Mae’n ysbrydoledig gweld rhaglen sy’n gwrando ac yn ymateb mewn ffordd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, cadarnhaol."

Mae’r prosiect yn cefnogi’r blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yng Nghynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan ddefnyddio arian sydd wedi’i adfer o enillion troseddu. Gall grwpiau cymunedol wneud cais i’r gronfa am grantiau sy’n amrywio o £1,000 i £50,000 i gefnogi mentrau lleol.

Dywedodd Khayrul Alam o Next Gen Youths: "Mae adborth gan y gymuned leol yn dangos bod plant a phobl ifanc yn wynebu heriau cynyddol, gan gynnwys arwahanrwydd cymdeithasol, iechyd meddwl gwael, a’u bod yn dod i fwy o gysylltiad ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn enwedig yn ystod y nosweithiau a gwyliau ysgol.

"Rydyn ni’n falch o agor drysau’r mosg i’r gymuned ehangach, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i helpu pobl ifanc i gael hwyl, magu hyder, dysgu sgiliau newydd, a ffurfio cyfeillgarwch parhaol mewn amgylchedd diogel a chefnogol."