Lleisiwch eich barn ynglŷn â chyllid yr heddlu yng Ngwent

28ain Tachwedd 2023

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn gofyn am farn trigolion ynglŷn â chyllid yr heddlu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Comisiynwyr yr heddlu a throsedd sy'n gyfrifol am bennu'r swm mae trigolion yn ei dalu tuag at blismona bob mis. Mae bron i 40 y cant o gyllideb gyffredinol Heddlu Gwent o £181 miliwn yn dod o daliadau'r dreth gyngor lleol.

Er mwyn gwneud y penderfyniad hwn, mae'n rhaid i'r Comisiynydd ystyried y swm o arian mae'r Prif Gwnstabl yn dweud sydd ei angen ar Heddlu Gwent i weithredu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol, y setliad ariannol blynyddol gan Lywodraeth y DU, cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Cyfiawnder, a fforddiadwyedd i bobl leol.

Dweud eich dweud