Hwb ariannol i glwb bocsio yn y gymuned

24ain Chwefror 2020

Mae Clwb Bocsio Amatur Alway yng Nghasnewydd yn cynnig sesiynau bocsio a mentora personol yn y gymuned, diolch i gyllid gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent.

Nod prosiect #Stopstabbingstartjabbin yw gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, neu sydd eisoes wedi dod yn ddioddefwyr trosedd.

Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn cael eu hannog i sianelu eu hymdrechion i weithgarwch cadarnhaol, gan ddysgu'r sgiliau corfforol a'r ddisgyblaeth angenrheidiol ar gyfer y gamp ar yr un pryd.

Mae'r cyllid wedi helpu'r clwb i brynu cyfarpar newydd ar gyfer ei gampfa hefyd, gan gynnwys peiriannau rhwyfo, beiciau ffitrwydd, melinau traed a pheiriannau croes-hyfforddi sydd ar gael i'r gymuned eu defnyddio.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Rwyf yn falch ein bod wedi gallu cefnogi'r prosiect hwn sy'n dysgu plant a phobl ifanc am ddisgyblaeth, ffitrwydd corfforol a maeth, gan feithrin eu hyder a hunan-barch ar yr un pryd.

"Mae'r rhain i gyd yn ffactorau pwysig i helpu i gadw plant a phobl ifanc oddi wrth drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rwyf yn edrych ymlaen at weld sut bydd y prosiect yn datblygu yn ystod y flwyddyn i ddod."

Yusuf Ali a sefydlodd yr ymgyrch, ar y cyd â'r prif hyfforddwr bocsio, Carl Samuels. Dywedodd Mr Ali: “Yng Nghlwb Bocsio Amatur Alway rydym yn ceisio meithrin pobl ifanc ac oedolion i gryfhau eu galluoedd corfforol a meddyliol, ac i ddatblygu disgyblaeth, hunan-barch a hyder trwy'r gamp.

"Trwy roi lle diogel i bobl yn y gymuned, lle gallant ddefnyddio eu hegni i ganolbwyntio ar y gamp, gallwn helpu pobl i wneud dewisiadau cadarnhaol mewn bywyd a bod y fersiwn gorau posibl ohonyn nhw eu hunain."