Heddlu Gwent yn cael ei ganmol am ei wasanaethau amddiffyn plant

3ydd Medi 2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi canmol Heddlu Gwent a phartneriaid yn dilyn adolygiad annibynnol o wasanaethau amddiffyn plant y llu. 

Cynhaliwyd yr adolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru mewn partneriaeth ag Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gwasanaeth Prawf Ei Mawrhydi ac Estyn.

Roedd yn canolbwyntio ar drefniadau amddiffyn plant yng Nghasnewydd ac roedd yn edrych ar yr heddlu, awdurdod lleol, gofal iechyd, gwasanaeth prawf a sefydliadau partner.

Yn benodol, cafodd Heddlu Gwent ganmoliaeth am:

  • Fuddsoddi'n sylweddol yn y tîm sy'n gyfrifol am ymchwilio i gam-drin plant;
  • Rhoi gweithiwr cymdeithasol pwrpasol i weithio yn ystafell reoli'r llu i roi cymorth i swyddogion gyda materion diogelu;
  • Rhoi hyfforddiant i dros 1,000 o swyddogion ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod trwy'r rhaglen Camau Cynnar Gyda'n Gilydd, sy’n cynnwys cam-drin domestig a cham-ddefnyddio cyffuriau yn y teulu. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Swyddfa Gartref a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent;
  • Creu canolfan ddiogelu gyda Chyngor Dinas Casnewydd i rannu gwybodaeth a gwneud gwell penderfyniadau'n gyflym;
  • Gwaith partner cadarn.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae'r adolygiad annibynnol hwn yn cadarnhau bod y Prif Gwnstabl a mi yn cyflawni ein hymroddiad i wella'r ffordd mae Heddlu Gwent yn diogelu plant ac yn amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.

"Rwyf yn arbennig o falch ei fod wedi nodi'r defnydd o weithwyr cymdeithasol yn ystafell reoli'r llu a'r rhaglen Camau Cynnar Gyda'n Gilydd, a gafodd eu sbarduno gan fy swyddfa i.

"Rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon ac mae cyfleoedd bob amser i gaboli a gwella gwasanaethau. Fodd bynnag, ynghyd â'n prif bartneriaid strategol, rwyf yn hyderus y byddwn yn parhau i wella ymateb yr heddlu i blant bregus.”

Mae'r adolygiad yn dilyn adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi, a gasglodd bod Heddlu Gwent wedi gwella'n sylweddol yn y maes amddiffyn plant. 

Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: "Rydym wedi ymroi i amddiffyn a thawelu meddwl y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Trwy waith partner a hyfforddiant cadarn, mae swyddogion a staff yn gallu ymateb yn y ffordd orau posibl i'r plant hynny sydd angen ein help.

"Rwyf yn falch i weld bod ein hymroddiad i amddiffyn plant wedi cael ei amlygu fel cryfder yn yr adroddiad arolygu ar y cyd diweddar.

"Fel sefydliad rydym yn deall bod mwy i'w wneud bob amser i ddarparu gwell gwasanaeth i gymunedau Gwent.

"Rydym wedi cymryd camau breision yn barod trwy roi nifer o newidiadau ar waith i ddatblygu ein gwaith partner; sicrwydd ansawdd; ac adnoddau cyffredinol yn y maes allweddol hwn."

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.