Gweithdai'n helpu pobl ifanc i adnabod ecsbloetio a chwilio am gymorth
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi rhoi cymorth i'r elusen Missing People i ddarparu gweithdai i blant a phobl ifanc yng Ngwent sydd wedi cael eu hadnabod i fod mewn perygl o gael eu hecsbloetio.
Nod y sesiynau yw sicrhau bod gan y plant 13-16 oed y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i adnabod gwahanol fathau o ecsbloetio, gan gynnwys grŵmio, a deall sut i gael cymorth a chefnogaeth.
Mae'r elusen wedi gweithio'n agos gyda Heddlu Gwent ac unedau atgyfeirio disgyblion Gwent i adnabod plant a allai gael budd o'r sesiynau hyn. Trwy helpu pobl ifanc i adnabod risgiau posibl a gwybod ble i droi i gael cymorth, mae Missing People yn gobeithio lleihau nifer y plant sy'n mynd ar goll bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig.
Meddai Jane Mudd: "Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod rhai plant sy'n ymwneud â throsedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd ymysg y rhai mwyaf agored i gael eu hecsbloetio gan bobl eraill.
"Mae'r gweithdai hyn yn helpu plant i adnabod ecsbloetiaeth, sylweddoli bod rhywbeth o'i le o bosibl, a gwybod bod cymorth ar gael. Trwy roi'r hyder i bobl ifanc chwilio am gymorth, rydym yn gobeithio lleihau nifer y plant sy'n mynd ar goll o'n cymunedau a helpu i atal mwy o niwed."