Gangiau'n defnyddio fêps i ecsbloetio pobl ifanc

16eg Ionawr 2024

Mae gangiau troseddol yn defnyddio e-sigaréts a fêps i ecsbloetio pobl ifanc yn droseddol ac yn rhywiol.

Yn draddodiadol mae gangiau wedi defnyddio arian, esgidiau rhedeg, a bwyd i ddenu a dal pobl ifanc, ond yn dilyn adroddiad gan y GIG sy’n nodi cynnydd o 9% yn nifer y bobl ifanc 11-15 oed sy’n fepio, mae troseddwyr wedi datblygu eu tactegau ac maen nhw’n defnyddio fêps i dargedu pobl ifanc yn awr.

Os ydych chi’n pryderu am rywun rydych yn ei adnabod, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw. I gael rhagor o fanylion, ewch i wefan Crimestoppers.