Dyletswydd Iechyd y Cyhoedd

25ain Gorffennaf 2019

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu cyhoeddiad am ddyletswydd gyfreithiol newydd ar gyrff cyhoeddus i atal a mynd i'r afael â throsedd difrifol.

Cyhoeddodd Y Swyddfa Gartref y byddai’r ddyletswydd newydd - 'dyletswydd iechyd y cyhoedd' - yn berthnasol i’r heddlu, cynghorau lleol, cynrychiolwyr o'r byd addysg, gwasanaethau troseddau ieuenctid a chyrff iechyd lleol fel ymddiriedolaethau'r GIG.

Bydd yn sicrhau bod gwasanaethau perthnasol yn cydweithio i rannu data, cudd-wybodaeth a gwybodaeth er mwyn deall a mynd i'r afael ag achosion craidd trosedd difrifol, gan gynnwys troseddau cyllyll. Bydd hefyd yn eu galluogi nhw i dargedu eu hymyraethau i atal a lleihau trais.

Bydd diwygiad i'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn yn sicrhau bod trais difrifol yn flaenoriaeth bendant i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol, sy'n cynnwys yr heddlu, gwasanaethau tân a gwasanaethau prawf lleol, trwy sicrhau bod ganddynt strategaeth ar waith i fynd i'r afael â throseddau treisgar.

Dywedodd Mr Cuthbert: “Mae graddfa a chymhlethdod y problemau sy'n sail i drais difrifol y tu hwnt i gwmpas unrhyw asiantaeth unigol. Mae dull amlasiantaeth o weithio yn darparu llwyfan hollbwysig ar gyfer rhannu gwybodaeth a gwaith partner strategol a chyd-gysylltiedig.

"Efallai bod gennym heriau lleol sy'n amrywio ym mhob un o'n hardaloedd unigol, ond mae trais difrifol a'i ganlyniadau'n effeithio ar gymunedau cyfan. Mae hon yn broblem i Gymru gyfan. Mae'n fater cenedlaethol. Ni all un asiantaeth ei ddatrys ar ei phen ei hun.

"Mae ein profiadau yng Ngwent wedi dangos bod cyfleoedd i rannu gwybodaeth a gweithio'n agos gyda phartneriaid wedi bod yn gadarnhaol wrth atal a mynd i'r afael â thrais difrifol. Mae ein prosiect peilot Troseddau Cyfundrefnol Difrifol Casnewydd wedi dangos bod ein gwaith amlasiantaeth, sy'n cael ei gyllido ar y cyd gan Y Swyddfa Gartref a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, wedi arwain at gydweithredu cadarnhaol ac effeithiol. Mae'r un peth yn wir am brosiect Camau Cynnar Gyda'n Gilydd Cymru Gyfan sy'n ymdrin â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

“Mae pob un o'r prosiectau hyn yn helpu i ddatblygu dulliau o weithio mewn partneriaeth sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd, cadernid cymunedol a chyfathrebu strategol.

“Rwy'n hyderus trwy ymrwymo adnoddau priodol - amser, pobl ac arian - a thrwy waith atal ac ymyrryd strategol, y gallwn wneud gwahaniaeth sylweddol gyda'n gilydd.”

Am ragor o wybodaeth am y ddyletswydd gyfreithiol newydd, ewch i www.gov.uk/government/news/new-public-health-duty-to-tackle-serious-violence