Diwrnod Cenedlaethol y Gwasanaethau Brys

9fed Medi 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi nodi Diwrnod Cenedlaethol y Gwasanaethau Brys drwy ganmol holl weithwyr a gwirfoddolwyr y gwasanaethau brys ledled Gwent.

Digwyddiad blynyddol i gydnabod y cyfraniad i gymdeithas a wneir gan y rhai sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli ym maes plismona, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau brys eraill yw’r Diwrnod Gwasanaethau Brys.

Meddai Jeff Cuthbert: “Mae’r Diwrnod Gwasanaethau Brys yn gyfle i gydnabod ac i ddiolch i’n gweithwyr a’n gwirfoddolwyr yn y gwasanaethau brys.

“Rwy’n falch iawn fod Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Amanda Blakeman, wedi ymuno â Bwrdd Diwrnod 999 yn ddiweddar. Bydd DCC Blakeman yn dod â chyfoeth o brofiad a brwdfrydedd i’r tîm.

“Mae gwaith caled ac ymroddiad ein gwasanaethau brys yn amlycach ac yn haeddu mwy o gydnabyddiaeth nag erioed.

“Mae gweithwyr a gwirfoddolwyr y gwasanaethau brys yn peryglu eu bywydau i wasanaethu ein cymunedau. Rydw i wedi fy anesmwytho o glywed bod digwyddiadau treisgar yn eu herbyn yn dal i ddigwydd, a hoffwn ei gwneud yn glir na fydd plismona yn goddef triniaeth o’r fath.

“Rwy’n croesawu’r canllawiau newydd sy’n golygu y gallai troseddwyr sy’n ymosod ar weithwyr brys wynebu dedfrydau hirach o garchar.

“Bydd y rhan fwyaf o drigolion, os nad pob un, angen gwasanaethau brys ar ryw adeg yn eu bywydau, a gofynnaf i chi ein helpu ni drwy ddangos parch i’w gweithwyr.

“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i’n swyddogion heddlu a’n staff, gweithwyr y gwasanaethau brys, ac wrth gwrs, i’w teuluoedd, am eu hymddygiad anhunanol sy’n ein cadw ni i gyd yn ddiogel.”