Diweddariad Aelodau Senedd y DU (ASau) Gwent

10fed Mehefin 2020

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert:

“Ddiwedd yr wythnos ddiwethaf fe wnes i ymuno â Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent mewn galwad cynhadledd gydag ASau ar draws Gwent.

“Wrth gwrs, roedd Covid-19 yn rhan fawr o’n trafodaethau. Rydym ni’n pryderu yn benodol am yr oedi mewn achosion llys ac fe wnaeth ASau gytuno i godi hyn gyda swyddfa’r Arglwydd Ganghellor.

“Fe wnaethom ni hefyd drafod y protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys sy’n digwydd ar draws y DU. Er ein bod ni i gyd yn cefnogi hawliau pobl i brotestio’n heddychlon, roedd ASau yn rhannu ein pryderon ynglŷn ag unrhyw fath o ymgasglu cyhoeddus torfol tra ein bod ni yng nghanol pandemig.

“Rwy’n falch bod ASau wedi cytuno i’n cefnogi i gael eglurhad o sefyllfa bresennol yr ardoll prentisiaeth. Bydd pob cyflogwr sydd â bil cyflog o fwy na £3 miliwn yn talu i mewn i gronfa genedlaethol a ddefnyddir i hyfforddi prentisiaid, gan gynnwys swyddogion heddlu, ond, nid yw’r heddlu yng Nghymru wedi gweld cyfran o’r cyllid hwn hyd yn hyn.

“Roedd yn gyfle hefyd i ASau godi rhai o’r materion cyfredol yn eu hetholaethau, ac roedd beicio oddi ar y ffordd a delio cyffuriau ymysg y pynciau a drafodwyd. Roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn ac fe wnaeth yr ASau ddiolch i Heddlu Gwent am eu gwaith.”