Disgyblion Torfaen a phartneriaid yn uno ar gyfer digwyddiad Cwpan y Byd

14eg Gorffennaf 2023

Yr wythnos yma aeth fy nhîm i ddigwyddiad Cwpan y Byd cynhwysiant merched a gynhaliwyd gan dîm Datblygu Chwaraeon Torfaen yn Stadiwm Cwmbrân.

Daeth y digwyddiad â dros 80 o bobl ifanc at ei gilydd o bob rhan o Dorfaen i ddathlu cynhwysiant a grymuso merched cyn Cwpan Pêl-droed Merched y Byd eleni. 

Roeddwn yn falch bod swyddogion o dîm pêl-droed merched Heddlu Gwent yno i gefnogi’r digwyddiad trwy helpu i ddyfarnu gemau ac i roi anogaeth frwd i’r holl dimau.

Roedd swyddog o dîm diogelu Heddlu Gwent yn y digwyddiad hefyd, a dreuliodd amser gyda rhieni a staff ysgolion yn cynnig cyngor ac arweiniad ar faterion diogelu.

Roedd yn gyfle gwych i ymgysylltu â disgyblion a chawsant gyfle i lenwi un o arolygon llais pobl ifanc fy swyddfa, er mwyn i mi gael gwybod sut maen nhw’n teimlo am blismona yng Ngwent.

Mae’r adborth o’r arolygon yn helpu fy nhîm a Heddlu Gwent i ddeall sut mae pobl ifanc yn teimlo am yr heddlu ac mae’n llywio ein gwaith ar gyfer y dyfodol.