Diogelu ein Diogelwyr

18fed Hydref 2017

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn galw ar bob Aelod Seneddol (AS) i gefnogi cyfraith newydd sydd â dedfrydau llymach ar gyfer y rheini sy'n ymosod ar weithwyr y gwasanaethau brys.

Ddydd Gwener 20 Hydref, caiff Bil Aelodau Preifat yr AS dros Rondda, Chris Bryant, ei gyflwyno ger bron y Senedd er mwyn creu trosedd newydd, sef ymosod ar un o weithwyr y gwasanaethau brys.

Cyn ail ddarlleniad y Bil yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos hon, mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn annog pob AS i fod yn bresennol i bleidleisio a chyflwyno newid i'r gyfraith er mwyn ymdrin ag ymosodiadau ar weithwyr y gwasanaethau brys sydd wrth eu gwaith. Os caiff ei basio, byddai'r Bil Trosedd (Ymosodiadau ar Staff y Gwasanaethau Brys) yn gwneud ymosodiadau ar weithwyr y gwasanaethau brys megis swyddogion yr heddlu, criwiau tân ac ambiwlans, yn drosedd waethygedig.

Yn ôl Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr (PFEW), mae ymosodiadau yn erbyn swyddogion yr heddlu yn annerbyniol o uchel - un bob 15 eiliad yn ôl ei amcangyfrifon diweddaraf. Dengys cofnodion iechyd a diogelwch Heddlu Gwent ei hun yr ymosodwyd ar 103 o swyddogion yr heddlu ar ddyletswydd ers 2015, yr oedd 24 o'r ymosodiadau hyn yn ymosodiadau ar Staff Cadw mewn dalfeydd. Dywed Heddlu Gwent y gallai'r ffigurau fod yn llawer uwch gan fod tystiolaeth yn awgrymu mai dim ond yr achosion mwyaf difrifol y rhoddir gwybod amdanynt gan swyddogion ac na roddir gwybod am achosion llai difrifol.

Yng Ngwent, mae'r ymosodiadau wedi amrywio o swyddogion yr heddlu yn cael eu tagu, eu trywanu, eu dyrnu, eu cicio, eu taro a'u cnoi, ac roedd angen triniaeth yn yr ysbyty am yr anafiadau ar lawer ohonynt. Dengys y ffigurau hefyd fod cyfanswm o bron i 350 o ddiwrnodau gwaith wedi'u colli gan Swyddogion Heddlu Gwent er mwyn gwella ar ôl ymosodiad.

Ym mis Mehefin eleni, dangosodd ffigurau a ryddhawyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru gynnydd o 158% yn nifer yr ymosodiadau yn erbyn ei griwiau yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae criwiau ledled ardal y Gwasanaeth wedi dioddef achosion o gam-drin geiriol a chorfforol, yn ogystal â phobl yn taflu pethau atynt, gan gynnwys briciau a thân gwyllt, wrth iddynt ymateb i alwadau am ddigwyddiadau mewn cymunedau lleol. Mae'r ardaloedd lle ceir y nifer uchaf o droseddau yn cynnwys Blaenau Gwent, Caerffili a Chasnewydd.

Cafwyd dros 18,000 o ymosodiadau corfforol hefyd ar staff y GIG yng Nghymru yn y gwaith dros gyfnod o bum mlynedd, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf. Dangosodd y data y bu dros 11,000 o ymosodiadau geiriol ar staff y GIG hefyd.

Gan alw ar ASau i gefnogi'r Bil, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Mae gweithwyr ein Gwasanaethau Brys yn gwneud gwaith anodd yn aml o dan amgylchiadau heriol. Yn anffodus, mae ymosodiadau corfforol a geiriol arnynt yn gyffredin er na roddir gwybod am nifer sylweddol o'r ymosodiadau hyn. Mae eu gwaith yn ddigon anodd beth bynnag ac ni ddylid byth goddef ymosodiadau o'r fath. Byddai'r rhan fwyaf o bobl yng Ngwent yn cytuno bod yr ymddygiad hwn yn annerbyniol ac na ddylai'r dynion na'r merched sy'n gwisgo eu lifrau bob dydd orfod disgwyl hyn. Byddwn yn annog pob AS i gefnogi Bil Chris Bryant i ddiogelu ein diogelwyr."

Dywedodd AS y Rhondda, Chris Bryant: "Rwy'n annog pob AS i fod yn bresennol i bleidleisio dros y bil hwn er mwyn diogelu'r diogelwyr – maent yn haeddu hynny o leiaf. Mae eisoes yn drosedd benodol i ymosod ar swyddog heddlu sy'n cyflawni ei ddyletswyddau, ond mae'r ddarpariaeth honno yn rhy wan o lawer ac nid yw'n diogelu swyddogion yn effeithiol. Mae erlyniadau yn brin, ac mae dedfrydau'n drugarog iawn, ac nid oes unrhyw ddiogelwch cyfreithiol i barafeddygon, meddygon na nyrsys o hyd. Yr hyn y mae'r pôl piniwn yn ei ddangos yw bod fy etholwyr a'r wlad yn credu ei bod hi'n hen bryd newid y gyfraith."

 

RHAI O'R YMOSODIADAU AR EIN GWASANAETHAU BRYS YNG NGWENT:

  • Hydref 2017 - Cyhuddwyd dyn o geisio llofruddio un o Swyddogion yr Heddlu yng Nghasnewydd. Ymosodwyd ar un o Swyddogion eraill yr Heddlu ar ei ffordd i helpu aelod o'r cyhoedd mewn digwyddiad ar wahân;
  • Gorffennaf 2017 - Cafodd dyn ddedfryd o garchar ar ôl bygwth un o Swyddogion yr Heddlu â chyllell yn Cross Keys;
  • Ionawr 2017 - Difrodwyd injan dân yng Nghasnewydd ar ôl i bobl ifanc ddechrau taflu brics a cherrig. Galwyd ar Swyddogion yr Heddlu i helpu criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;
  • Tachwedd 2016 - Ymosodwyd ar ddau o griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gan bobl ifanc wrth iddynt ymdrin â digwyddiadau ar Noson Tân Gwyllt. Ymosodwyd ar un criw o Gwmbrân â photeli gan tua 15 o bobl ifanc ar ôl diffodd coelcerth yn y dref. Taflodd pobl ifanc hefyd gerrig at ddiffoddwyr tân a oedd yn diffodd tân glaswellt yn Nhredegar Newydd gan weiddi sylwadau sarhaus atynt. Mewn digwyddiad ar wahân, targedwyd Swyddogion Heddlu Gwent yng Nghasnewydd ar gyfer ymosodiadau â thân gwyllt masnachol. Cafodd nifer o Swyddogion eu taro â thaflegrau pyrotechnig a cherrig;
  • Tachwedd 2016 - Bu'n rhaid i un o Swyddogion Heddlu Gwent gael triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad ffyrnig mewn gwesty yng Nghasnewydd;
  • Hydref 2016 - Ymosodwyd ar weithwyr ambiwlans â chawod o dân gwyllt wrth iddynt helpu claf yng Nghasnewydd;
  • Hydref 2015 - Aethpwyd â dau o Swyddogion Heddlu Gwent i'r ysbyty yn dilyn ymosodiad wrth iddynt ymdrin â digwyddiad yn Nhrefynwy. Cafodd un swyddog ei wthio i'r llawr a bwrodd ei ben, a chwydwyd dros swyddog arall. Mewn digwyddiad ar wahân, rhoddwyd rhybuddiad i ddyn yn Nhrecelyn hefyd am ymosod ar un o gwnstabliaid yr heddlu wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau;
  • 2014 - Cafwyd dyn yn euog o ddyrnu un o Swyddogion benywaidd Heddlu Gwent yn ystod digwyddiad treisgar ym Mrynmawr. Roedd hyn yn rhan o ddigwyddiad lle cafodd tri o Swyddogion Heddlu Gwent eu hanafu. Aed â'r Swyddog i'r ysbyty yn dioddef o lygaid duon, trwyn wedi'i dorri, septwm cam, rhwygiad i'w hael chwith a chleisiau i'w braich. Cafodd gyfnod o dri mis i ffwrdd o'r gwaith yn dilyn y digwyddiad.