Dileu cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru

25ain Ionawr 2022

O ddydd Llun 21 Mawrth bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, smacio, slapio, bwrw ac ysgwyd.

Bydd yn rhoi i blant yr un hawliau ac amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion.

Ar ôl dydd Llun 21 Mawrth 2022 bydd unrhyw un sy'n cosbi plentyn yn gorfforol:

  • yn torri'r gyfraith
  • mewn perygl o gael ei arestio neu ei gyhuddo o ymosodiad

• yn gallu cael cofnod troseddol, sydd yr un fath ar gyfer unrhyw drosedd.

Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru - Magu Plant. Rhowch Amser Iddo i gael manylion.