Digwyddiad Mawr Cwmbrân

13eg Mehefin 2022

Mewn partneriaeth â Heddlu Gwent gwnaethom ailgyflwyno Digwyddiad Mawr Cwmbrân dros y penwythnos.

Daeth miloedd o bobl i’r digwyddiad ar Lyn Cychod Cwmbrân, sydd wedi’i ohirio ers dwy flynedd oherwydd Covid.

Siaradodd y tîm â channoedd o oedolion a phlant drwy gydol y dydd, ac roedd yn galonogol clywed mor gadarnhaol oedd barn y rhan fwyaf o’r bobl ar eu tîm plismona lleol.

Rhoddwyd miloedd o eitemau atal troseddau am ddim yn ystod y diwrnod hefyd er mwyn helpu i gadw pobl yn ddiogel.

Diolch i bawb a gymerodd amser i stopio a dweud helo.