Dathlu Pride Caerffili

28ain Mehefin 2023

Roeddwn yn falch i orymdeithio gyda phartneriaid o gymaint o wahanol sefydliadau yn y digwyddiad Pride Caerffili cyntaf dros y penwythnos.

Roedd yn ddigwyddiad cadarnhaol iawn, ac roedd yn ffantastig gweld y gymuned yn dod at ei gilydd a mwynhau eu hunain.

Roeddwn yn drist i glywed gan lawer o'r bobl y siaradais â nhw yn ystod y dydd eu bod nhw wedi dioddef troseddau casineb yn rheolaidd yn ystod eu bywydau.

Mae hon yn drosedd erchyll sy'n gallu gwneud niwed parhaol i ddioddefwyr ac ni fydd yn cael ei goddef.
 
Gofynnaf yn daer ar unrhyw un sy'n dioddef trosedd casineb i riportio'r mater wrth yr heddlu.

Mae gan Heddlu Gwent swyddogion cefnogaeth troseddau casineb pwrpasol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol i ymateb i adroddiadau am gasineb. Bydd uned gofal dioddefwyr yr heddlu'n sicrhau bod dioddefwyr yn cael cefnogaeth o'r adroddiad cyntaf yr holl ffordd trwy’r broses cyfiawnder troseddol.

Peidiwch â chadw'n dawel, mae help ar gael.