Dathliadau Eid Ysgol Gynradd St Andrew

4ydd Mai 2023

Yr wythnos hon roeddwn wrth fy modd i fod yn bresennol mewn gwasanaeth arbennig i ddathlu Eid yn Ysgol St Andrew yng Nghasnewydd.

 

Mae Eid al Fitr yn ddathliad pwysig i'r gymuned Fwslimaidd. Mae'n golygu "gŵyl torri'r ympryd" ac mae'n digwydd ar ôl Ramadan.

 

Roeddwn yn falch i weld rhieni, llywodraethwyr, arweinwyr crefyddol a sefydliadau partner yn dod at ei gilydd i ddathlu gyda’r disgyblion.

 

Dim ond un o nifer o ddigwyddiadau yn ystod y dydd oedd y gwasanaeth. Cymerodd y disgyblion ran mewn sesiynau coginio, crefft a pherfformiadau cerddorol hefyd.

 

Hoffwn ddiolch i blant St Andrew am fy ngwahodd i ymuno â nhw ar yr achlysur arbennig iawn yma.