Cymorth i ddioddefwyr a thystion camdriniaeth

18fed Awst 2022

Mae mynd i'r llys yn gallu bod yn brofiad brawychus. 

Mae gan ddioddefwyr a thystion cam-drin domestig neu gam-drin rhywiol y mae gofyn iddyn nhw roi tystiolaeth mewn treial neu fynd i wrandawiad teuluol hawl i fesurau arbennig. 

Ymyraethau yw mesurau arbennig sy'n gallu diogelu ac amddiffyn dioddefwyr a thystion o fewn y broses cyfiawnder.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: Rwyf wedi ymroi i ddarparu cymorth effeithiol i ddioddefwyr. Rwyf yn falch i weld newidiadau i'r broses yn y llysoedd sy'n helpu i gefnogi ein dioddefwyr a thystion cam-drin domestig a cham-drin rhywiol mwyaf agored i niwed.

"Gallai'r broses mesurau arbennig newid bywyd rhywun nad yw wedi bod mewn llys neu'n rhan o'r broses cyfiawnder o'r blaen.

“Gallai rhoi tystiolaeth o bell neu hyd yn oed ofyn i aelodau'r cyhoedd adael llys roi cyfle gwell i ddioddefwyr a thystion gael euogfarn lwyddiannus yn erbyn tramgwyddwr.”

Mae 15 cyfleuster tystiolaeth fideo diogel ledled Cymru, gan gynnwys un yng Nghasnewydd.

Mae enghreifftiau eraill o fesurau arbennig yn cynnwys:

  • Defnyddio sgrin mewn llys i guddio'r dioddefwr neu dyst
  • Defnyddio ystafell ar wahân i roi tystiolaeth
  • Recordio tystiolaeth cyn y treial fel y gellir ei chwarae yn y llys
  • Gofyn i gyfreithwyr a barnwyr dynnu eu wigiau a'u gynau
  • Gofyn i aelodau'r cyhoedd adael cyn i dystiolaeth gael ei rhoi

Gall swyddogion heddlu, staff llys teulu, gweithwyr cymorth cam-drin domestig a gweithwyr cymorth ymosodiadau rhywiol helpu dioddefwyr a thystion i gael mesurau arbennig.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch, anfonwch neges destun neu anfonwch neges at Byw Heb Ofn 0808 80 10 80.