Cyhoeddi Ymddeoliad

4ydd Ebrill 2019

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gwent wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol ar ddiwedd mis Mehefin 2019.

 

Prif Gwnstabl Julian Williams

“Mae gweithio yn Heddlu Gwent dros y pum mlynedd diwethaf wedi bod yn fraint enfawr i mi ac mae wedi bod yn anrhydedd go iawn i fod yn Brif Gwnstabl y llu am ddwy flynedd.

“Rwyf wastad wedi bod yn edmygus iawn o ymroddiad, egni a phroffesiynoldeb fy nghydweithwyr yn y llu sydd, er gwaethaf amgylchiadau heriol iawn, bob amser yn ymdrechu i roi’r cyhoedd yn gyntaf ym mhopeth maen nhw’n ei wneud.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r llu wedi addasu i alw cynyddol a darlun ariannol heriol, ac mae’r newidiadau sydd wedi cael eu gwneud wedi sicrhau bod y llu mewn lle cadarn iawn i ymdrin â chymhlethdodau troseddau difrifol, bregusrwydd a hyder y cyhoedd.

“Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert, wedi bod yn eithriadol o gefnogol yn ystod fy nghyfnod fel Prif Gwnstabl ac mae ei Gynllun Heddlu a Throseddu yn dangos ei ymroddiad i wella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu ymhellach.

“Rwyf yn hynod o falch i fod yn swyddog heddlu ac rwy’n ystyried fy hun yn lwcus i fod wedi cael cyflawni fy 30 mlynedd o wasanaeth yng Nghymru, yn gwasanaethu cymunedau rwy’n eu hadnabod yn dda iawn.

“Rwyf wedi sicrhau’r Comisiynydd fy mod yn dal yn ymroddedig i ddarparu’r gwasanaeth gorau y gallaf, nes i mi ymddeol o’r llu ar ddiwedd mis Mehefin.”

 

Comisiynydd Heddlu a Throseddu Jeff Cuthbert

“Rwyf yn deall pam mae Julian Williams wedi penderfynu ymddeol ond rhaid i mi ddweud ei bod yn ddrwg iawn gennyf ei fod wedi penderfynu gwneud hynny.

“Mae Julian wedi arwain Heddlu Gwent yn effeithiol iawn ac mae wedi dangos proffesiynoldeb, ochr yn ochr â thosturi, bob amser. Byddaf yn gweld ei golli wrth y llyw yn Heddlu Gwent.

Mae Julian wedi dangos ei ymroddiad amlwg i amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau ac mae ei benderfyniad i greu uned arbennig i helpu i ddileu masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern yn enghraifft wych o hynny.

“Rwy’n sicr y bydd llawer o gyfleoedd iddo barhau i gyfrannu’n gadarnhaol at fywyd cyhoeddus Cymru yn y dyfodol, er mewn swyddogaeth wahanol.

“Rwyf yn bwriadu hysbysebu am Brif Gwnstabl newydd yr wythnos nesaf. Bydd proses ddewis gadarn, deg a thryloyw yn dilyn, gan orffen gyda Gwrandawiad Cadarnhau o flaen y Panel Heddlu a Throseddu.”